Mae angen rhagor o amser i alluogi adeilad newydd i gael ei godi ar Faes Sioe Llanelwedd.
Mae Cymdeithas Genedlaethol y Defaid wedi cyflwyno cais cynllunio Adran 73 i Gyngor Sir Powys, mewn ymgais i gael pum mlynedd arall i godi adeilad newydd.
Mae’r gymdeithas eisiau newid yr amod cyntaf, gafodd ei atodi i’r caniatâd cynllunio wnaethon nhw ei dderbyn gan gynllunwyr Powys fis Tachwedd 2019.
Mae’r adeilad presennol drws nesaf i’r pafiliwn cneifio defaid ar safle Maes y Sioe.
“Mis Tachwedd eleni fydd y dyddiad cau i ddechrau’n dechnegol, os na chaiff ei ymestyn,” meddai Gerallt Davies, yr asiant cynllunio o gwmni Roger Parry a’i bartneriaid.
“Mae Cymdeithas Genedlaethol y Defaid yn dymuno disodli 1,722 metr sgwâr o’r adeilad presennol gydag adeilad ffrâm porth dur galfanedig newydd, mwy gwydn.
“Bydd yn sefyll ar union yr un ôl troed â’r adeilad presennol.
“Y prif fater i’w ystyried yw a yw’r amgylchiadau wedi newid neu beidio o’r adeg gafodd caniatâd cynllunio ei roi’n wreiddiol, fel bod ymestyn y terfyn amser ar gyfer caniatâd bellach yn annerbyniol.”
‘Elfen o ansicrwydd’
Pan gafodd y cais gwreiddiol ei gyflwyno yn 2019, meddai Gerallt Davies, roedd yna “elfen o ansicrwydd” ynghylch yr hinsawdd ariannol ac economaidd.
Ond newidiodd pethau o fewn dim o dro pan darodd y pandemig Covid-19, ac yna’r rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng costau byw yn dynn ar ei sodlau.
“Roedd yr effaith wedi ei gwneud hi’n anodd i’r ymgeisydd barhau â’r datblygiad, gan fod popeth mor ansicr,” meddai Gerallt Davies.
“Fodd bynnag, nawr bod yr hinsawdd ariannol yn sefydlogi, mae’r ymgeiswyr yn ceisio gwthio’r datblygiad yn ei flaen.”
Eglurodd y gellid gwneud “dechreuad technegol” ar y datblygiad er mwyn cadw’r caniatâd cynllunio presennol “yn fyw”.
Ond mae’n credu y byddai dechrau a pheidio gorffen y prosiect yn “andwyol” i Faes y Sioe yn gyffredinol.
“Mae’r rhesymeg y tu ôl i’r cais yn rhesymol, a dw i ddim yn credu y bu newid sylfaenol mewn amgylchiadau fyddai’n gofyn bod gan yr awdurdod cynllunio lleol farn wahanol ynghylch y cais i’r hyn oedd ganddyn nhw am y caniatâd gwreiddiol,” meddai.
Roedd dogfennau gafodd eu cyflwyno’n rhan o’r cais gwreiddiol yn 2019 yn egluro bod yr adeilad coed pren presennol “yn dod i ddiwedd ei oes fel un o ddefnydd”.
“Fe fu’r adeilad presennol yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd am arddangos bridiau amrywiol o ddefaid, a’r weledigaeth yw cynnal holl fanteision yr adeilad presennol mewn ffurf fydd yn para’n well wrth ei gadw’n debyg i’r adeiladau cyfagos.”
Mae disgwyl penderfyniad ynghylch ymestyn yr amser erbyn Awst 8.