Mae Plaid Cymru’n galw am ddiddymu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y swydd y bu’r Ceidwadwr David TC Davies ynddi’n fwyaf diweddar.

Yn ôl y Blaid, mae dwy brif blaid San Steffan wedi cefnu ar Gymru, datganoli ac ewyllys y Senedd, ac maen nhw am gyflwyno cynnig gerbon Bae Caerdydd yn nodi y dylid trosglwyddo swyddogaethau’r rôl i Lywodraeth Cymru.

Dywed Plaid Cymru fod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig “wedi ymosod ar ddatganoli ers tro, gan ddefnyddio swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol i gwestiynu ewyllys y Senedd”.

Byddai hyn yn parhau o dan Lywodraeth Lafur, medd Plaid Cymru, sy’n dadlau bod y rôl wedi dyddio erbyn hyn.

‘Wfftio ewyllys y Senedd’

Dywed Plaid Cymru fod Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig diweddaraf Llafur yn San Steffan, wedi “wfftio ewyllys y Senedd” yn ystod cyfweliad â’r rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C.

Maen nhw’n dweud ei bod hi wedi dangos “agwedd ddirmygus tuag at ddatganoli” ar ôl gwadu bodolaeth HS2 ac felly y £4bn sy’n ddyledus i Gymru trwy arian canlyniadol.

Roedd hi hefyd wedi “gwawdio” datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru fel “ffidlo o gwmpas gyda strwythurau a systemau”, medden nhw, gan ychwanegu bod “consensws trawsbleidiol” yn y Senedd y dylai Cymru dderbyn yr arian sy’n ddyledus iddi.

Ar hyn o bryd, mae HS2 wedi’i ddynodi’n brosiect ‘Cymru a Lloegr’, a hynny “er nad oes modfedd o drac yng Nghymru”, medd Plaid Cymru.

Mae datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru hefyd yn cael ei gefnogi gan Blaid Cymru a Llafur yng Nghymru, yn dilyn sawl comisiwn annibynnol neu drawsbleidiol, gan gynnwys Comisiwn Thomas (2019), Comisiwn Silk (2014) ac yn fwyaf diweddar Gomisiwn Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2024).

‘Agwedd ddirmygus a nawddoglyd yn glir’

“Wrth ddathlu 25 mlynedd o ddatganoli, mae agwedd ddirmygus a nawddoglyd pleidiau San Steffan tuag at y Senedd yn glir,” meddai Liz Saville Roberts, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

“Rydyn ni’n ei ddisgwyl gan y Torïaid wrth gwrs, ond mae’n ymddangos bod Llafur hefyd wedi troi eu cefn ar ddatganoli ac ewyllys y Senedd.

“O wrthod biliynau sy’n ddyledus i Gymru o brosiect HS2 Lloegr, i wrthod pwerau datganoledig dros blismona a chyfiawnder er bod sawl adroddiad a gomisiynwyd gan Lafur wedi dweud y byddai’n gwella canlyniadau yn sylweddol.

“Rhoddodd Jo Stevens – Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru – ragolwg i ni o sut y byddai Cymru’n cael ei thrin gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig.

“Mae swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fod i hyrwyddo buddiannau Cymru o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Yn hytrach, mae’n cael ei ddefnyddio’n gynyddol fel llwyfan i gael llais democrataidd nodedig y Senedd – waeth pa blaid sy’n dal y swydd.

“Does dim angen cwestiynu democratiaeth Cymru.

“Mae’n hen bryd diddymu’r rôl hen ffasiwn hon sydd ddim yn gwasanaethu buddiannau pobol Cymru yn effeithiol, a throsglwyddo’i swyddogaethau i Lywodraeth Cymru.”

‘Eraill bob amser yn gallu rheoli ein tynged’

Yn ôl Heledd Fychan, Rheolwr Busnes Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol mwyaf diweddar Cymru, wedi dangos yr anghydbwysedd grym sy’n bodoli rhwng y Senedd a San Steffan.

“Roedd mis diwethaf yn nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru,” meddai.

“Ac eto, mae’r modd y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i rolau gwrthblaid gysgodol yn delio â Senedd ddatganoledig Cymru yn dangos yr anghydbwysedd grym sydd wedi ymwreiddio ac yn diffinio’r berthynas rhwng San Steffan a Chymru.

“Mae adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn crynhoi hyn yn glir, gan alluogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru i atal unrhyw ddeddfwriaeth yn y Senedd.

“Mae’n swyddogaeth cipio pŵer sydd wedi’i chynllunio i anfon neges glir i Gymru y bydd eraill bob amser yn gallu rheoli ein tynged.

“Fe wnaeth cyfweliad Jo Stevens o Lafur yr wythnos ddiwethaf atgyfnerthu hynny, gan gyfeirio at ddatganoli fel cytundeb nid mynnu.

“Waeth pwy sy’n cael yr allweddi i 10 Downing Steet, mae dirmyg a hunanfodlonrwydd San Steffan tuag at Gymru yn gyson.

“Mae’n dod yn gliriach bob dydd mai’r unig bleidlais i sicrhau y bydd llais Cymru’n cael ei glywed a’i barchu ar Orffennaf 4 yw pleidlais dros Blaid Cymru.”