Mae Ron Davies, cyn-Ysgrifennydd Cymru, yn dweud ei fod yn “rhagweld ymhen dwy flynedd y bydd y sglein wedi dod i ffwrdd o’r Llywodraeth Lafur yn Steffan, ac y bydd hyn yn achosi amser anodd i Lafur yng Nghymru” yn etholiadau’r Senedd yn 2026.

Bu’n siarad â golwg360 yng nghanol yr ymgyrchu yng Nghymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4, gan drafod perthnasedd yr etholiad i Gymru yn ogystal â dyfodol Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru ac effaith yr helyntion ar obeithion Llafur Cymru yn yr etholiad.

Yn ôl Ron Davies, dydy’r hyn mae Llafur wedi cael eu beirniadu yn ei gylch – megis parasiwtio ymgeiswyr i mewn i etholaethau o’r tu allan, ynghyd â sylwadau Jo Stevens am ddatganoli – ddim yn broblem fawr i’r blaid.

“Dw i wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ers ugain mlynedd nawr, felly dw i ddim yn ceisio beirniadu nac amddiffyn y Blaid Lafur,” meddai wrth golwg360.

“Ond dw i’n meddwl bod teimlad y wlad yn un lle mae’n anodd iawn codi proffil datganoli a materion datganoledig pan fo’r mood music mor gryf tuag at Loegr a Chymru.

“Mae hynny wedi bod yn wir yn yr Alban hefyd, lle dydy’r ddadl am annibyniaeth ddim chwaith yn cael llawer o sylw oherwydd y teimlad yma gan lot o bobol fod rhaid cael gwared ar y Torïaid.”

Etholiadau’r Senedd yn 2026

Er bod Ron Davies o’r farn nad yw materion datganoledig a setliad datganoli wedi’u pwysleisio ryw lawer ar drothwy’r etholiad, dywed ei fod yn rhagweld amser “anodd” i Lafur ymhen dwy flynedd yn etholiadau Senedd Cymru.

“Dw i’n meddwl, ymhen dwy flynedd, y bydd sefyllfa gyda ni lle mae Llafur wedi bod yn llywodraethu yn San Steffan ers dwy flynedd, a’r peth gorau fyddan nhw’n gallu ei ddweud yw eu bod nhw wedi cyflawni o ran disgwyliadau isel.

“Fydd hyn ddim yn ddigon.

“Bydd pobol yn edrych o gwmpas ac yn meddwl, ‘Beth sydd wedi newid?’

“Dw i’n rhagweld, ymhen dwy flynedd, y bydd y sglein wedi dod i ffwrdd o’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac y bydd hyn yn achosi amser anodd i Lafur yng Nghymru yn yr etholiad yn 2026.”

Dywed fod cyfle i Blaid Cymru dyfu o’r etholiad hwn ac yn sgil y cyfle mae’r arweinydd Rhun ap Iorwerth wedi’i gael i rannu neges y Blaid ar lefel Brydeinig.

“Dw i’n meddwl bod Rhun wedi dod drosodd yn dda iawn mewn cae gorlawn,” meddai, wrth gyfeirio at nifer y pleidiau sy’n ceisio sylw.

“Mae e’n dod drosodd yn rhesymegol, ac mae ganddo ddadl sydd yn aeddfed ac yn bwyllog.”

Os na fydd materion megis pwerau datganoledig, setliad ariannu teg i Gymru a diffyg gweithredu ar ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn cael sylw digonol dros y ddwy flynedd nesaf, medd Ron Davies, yna mae’n bosib y daw cyfle gwirioneddol i Blaid Cymru.

“Bydd pobol yn edrych i leisio’u hanniddigrwydd,” meddai.

“Dw i’n meddwl, os oes ffordd i Blaid Cymru, nid yr etholiad hwn fydd yn penderfynu hynny ond, yn hytrach, etholiadau’r Senedd.”

‘Goddefadwy’

Wrth drafod helyntion Vaughan Gething, dywed Ron Davies nad yw’n deall sut y bu i Brif Weinidog Cymru ei gael ei hun “mewn picil”.

Mae arolygon barn diweddar yn awgrymu bod Gething yn “oddefadwy”, meddai.

“Sut gafodd e ei hun mewn picil fel hyn, dw i ddim yn gwybod…” meddai.

“Ond mae e yna, ac mae e’n mynd i aros gyda fe nes bod y Blaid Lafur yn gwneud penderfyniad [ynghylch ei ddyfodol yn arweinydd].

“Beth fydd yn digwydd ar ôl yr etholiad, pwy a ŵyr?

“Ond mae’n rhaid i fi ddweud fy mod i wedi synnu â graddau’r rhoddion, ac roeddwn i’n meddwl fod pethau fel hyn ond yn digwydd yn y swigen yn San Steffan.

“Mae’r arolygon barn am ei boblogrwydd yn wael, a dydy hyn ddim yn cael ei helpu gan y ffordd mae’n cyflwyno’i hun; mae’n gallu dod drosodd fel un sydd ond yn oddefadwy.”