Mae ymgeisydd seneddol Plaid Cymru ym Môn yn dweud ei bod hi a’i phlaid yn addo sicrhau gonestrwydd yn y byd gwleidyddiaeth.
Dywed Llinos Medi fod yna “wythnos ar ôl i sicrhau gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth”, ar ôl i’r Ceidwadwyr yn San Steffan “ddinistrio ymddiriedaeth y cyhoedd ar ôl 14 o flynyddoedd o sgandalau”.
Ymhlith y sgandalau hynny mae partïon yn Downing Street er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19, rhoddion amheus a honiadau o gytundebau masnachu ymhlith ei gilydd.
Ond dydy ymddygiad Llafur yng Nghymru ddim fel pe bai’n mynd i wella’r diwylliant gwleidyddol gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, meddai, gan gyfeirio at benderfyniad y Prif Weinidog Vaughan Gething i dderbyn rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan David Neal, pennaeth cwmni Dauson gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Mae’r Prif Weinidog dan y lach hefyd am benderfynu anwybyddu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth, gafodd ei chyflwyno gan ei gyd-wleidyddion yn y Senedd.
Mae disgwyl i Llinos Medi guro Virginia Crosbie, yr ymgeisydd Ceidwadol fu’n Aelod Seneddol ers yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Dywed fod Llafur a’r Ceidwadwyr wedi dangos “trahauster”, ac y dylai penderfyniad Llafur yn San Steffan i gefnogi Vaughan Gething “ganu clychau” i’r rhai sy’n gobeithio y bydd y naill yn well na’r llall mewn llywodraeth.
Toriadau
Mae Plaid Cymru hefyd wedi beirniadu Llafur a’r Ceidwadwyr am wrthod bod yn onest ynghylch eu cynlluniau i dorri cyllideb Cymru yn sgil eu cynlluniau gwario.
I’r gwrthwyneb, mae Plaid Cymru’n dweud y bydden nhw’n codi arian drwy gynyddu trethi’r rhai sy’n gallu fforddio talu’r swm mwyaf o arian.
Bydden nhw’n:
- dod â threth enillion cyfalaf yn gyfartal â’r dreth incwm
- codi rhwng £12bn-£15bn
- ymchwilio i’r posibilrwydd o gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y rhai sy’n ennill y cyflogau mwyaf
- cefnogi cyflwyno Treth Gyfoeth
- cosbi osgoi talu trethi’n llymach
- dileu’r ffyrdd y gall pobol annomestig osgoi talu trethi
‘Anfon neges’
“Mae gonestrwydd, tryloywder, atebolrwydd ac uniondeb yn bwysig mewn gwleidyddiaeth,” meddai Llinos Medi.
“Mae’r Torïaid wedi dinistrio ymddiriedaeth y cyhoedd ar ôl 14 o flynyddoedd o sgandalau – o bartïon yn ystod Covid i roddion amheus, i honiadau o fasnachu’n fewnol a llygru ein democratiaeth.
“Yn fwy nag erioed, mae angen aelodau seneddol yn San Steffan sydd wedi’u gyrru gan wasanaeth cyhoeddus, ac nid gan hunanfuddiannau.
“Yn drist iawn, mae Llafur wedi profi nad oes ganddyn nhw imiwnedd yn erbyn y trahauster sydd wedi’i ddangos gan y Torïaid yn San Steffan.
“Mae pobol yng Nghymru wedi’u siomi gan benderfyniad ein Prif Weinidog i dderbyn £200,000 gan droseddwr amgylcheddol gafwyd yn euog ac sydd bellach wedi’i amau o osgoi talu trethi.
“Daeth sioc arall pan ddywedodd Vaughan Gething gelwydd wrth yr ymchwiliad Covid ynghylch dileu negeseuon, a phan wnaeth y Prif Weinidog anwybyddu galwad ddemocrataidd y Senedd ar iddo ymddiswyddo.
“Yn yr etholiad hwn, mae Llafur y Deyrnas Unedig wedi rhoi eu cefnogaeth lawn i’r Prif Weinidog sy’n brwydro, a dylai hynny ganu clychau i’r sawl sy’n gobeithio am lywodraethiant gwell o dan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.
“Maen nhw hefyd wedi gwrthod bod yn onest drosodd a throsodd ynghylch eu cynnig yn yr etholiad hwn.
“Maen nhw wedi addo na fyddan nhw’n dychwelyd at lymder, ond mae’r IFS, Canolfan Llywodraethiant Cymru ac eraill wedi dweud yn glir fod llymder yn anochel pe bai Llafur yn cadw at gynlluniau gwario’r Torïaid.
“Bydd Llafur yn gwneud toriadau dwfn, ond dydyn nhw ddim yn bod yn onest am y peth.
“Bydd Keir Starmer yn Brif Weinidog ymhen wythnos.
“Mae pleidleiswyr yn Lloegr wedi datgan eu bwriad yn glir.
“Mae ymgyrch drychinebus Sunak yn ei gwneud hi’n amhosib i hynny newid.
“Yng Nghymru, mae gennym ni wythnos i benderfynu a ydyn ni eisiau ychwanegu at y dorf o aelodau seneddol Llafur sy’n cefnogi Starmer, sydd heb unrhyw gynigion positif i Gymru.
“Ydyn ni eisiau sicrhau bod y Prif Weinidog nesaf yn cael ei ddwyn i gyfrif mewn modd adeiladol?
“Ydyn ni eisiau anfon neges at Lafur fod Cymru’n gwrthod rhoddion amheus ac anonestrwydd ynghylch toriadau i wasanaethau cyhoeddus?
“Os ydych chi am roi gonestrwydd ac uniondeb yn ôl i mewn i’n gwleidyddiaeth, pleidleisiwch dros Blaid Cymru ddydd Iau nesaf.”