Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle o beidio â defnyddio’r cynllun Cyswllt Ffermio i roi gwybod i ffermwyr am newidiadau ar ôl Brexit.

Heddiw (dydd Mercher, Mehefin 27), bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn amlinellu sut maen nhw’n credu y dylai’r Llywodraeth ddefnyddio’u cynllun i helpu ffermwyr i ddeall a pharatoi ar gyfer y newidiadau.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn amlinellu pryderon ac yn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella gwasanaethau cymorth i ffermwyr yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n adnewyddu’r cytundeb ar gyfer Cyswllt Ffermio.

Cynllun i gefnogi ffermwyr yw hwn, sy’n darparu “rhaglen trosglwyddo gwybodaeth, arloesedd a gwasanaethau cynghori integredig sydd wedi eu llunio i ddarparu gwell cynaliadwyedd, mwy o gystadleuaeth a pherfformiad amgylcheddol”.

Mae’r Pwyllgor yn galw am wella rhai materion allweddol:

  • Mynediad a chymhwystra – Mae angen i Cyswllt Ffermio sicrhau mynediad gwell i newydd-ddyfodiaid a grwpiau eraill sydd wedi’u hallgáu ar hyn o bryd, gan gynnwys myfyrwyr
  • Cefnogi iechyd meddwl – O ystyried lefelau uchel o orbryder ynghylch yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu, ac ansicrwydd y cyfnod pontio y mae’r diwydiant ynddo, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau Cyswllt Ffermio yn cefnogi iechyd meddwl ac yn lleihau’r pwysau yn hytrach nag yn ychwanegu atyn nhw. Rhaid i Cyswllt Ffermio nodi a mynd i’r afael â’r materion sy’n achosi gorbryder a straen i ffermwyr
  • Mentoriaid – Rhaid archwilio’n llawn rôl y ffermwyr eu hunain fel mentoriaid ac arbenigwyr
  • Coedwigaeth a choetiroedd – Rhaid i Cyswllt Ffermio gynnwys llawer mwy o arbenigedd ym maes coedwigaeth a rheoli coetiroedd

‘Adeg hollbwysig i ddyfodol ffermio yng Nghymru’

“Mae’n adeg hollbwysig i ddyfodol ffermio yng Nghymru,” meddai Paul Davies, cadeirydd y pwyllgor.

“Mae Llywodraeth Cymru am wneud newidiadau mawr i’r ffordd mae cymorth ariannol yn cael ei ddarparu ac, wrth ystyried dyfodol gwasanaethau fel Cyswllt Ffermio, mae’n hollbwysig gwrando ar anghenion ffermwyr a sicrhau bod gwasanaethau cymorth a chynghori yn addas ar gyfer y dyfodol.

“Yn sgil newidiadau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae pobl ym myd ffermio wedi dweud wrthym fod bylchau yn y cymorth sydd ar gael i helpu ffermwyr i bontio i Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

“Ni ellir gorbwysleisio cryfder y teimladau ynghylch y newidiadau hyn.

“Gwelsom drosom ein hunain niferoedd y ffermwyr sydd wedi bod yn protestio ledled Cymru ac yn y Senedd.

“Clywodd ein hymchwiliad sut mae Llywodraeth Cymru wedi ‘colli cyfle’ drwy beidio â helpu Cyswllt Ffermio i gyfleu’r cyfeiriad a’r cyfiawnhad dros ei newidiadau i bolisi amaethyddol.

“Rydym wedi gwrando ar arweinwyr ffermio, a heddiw rydym yn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella Cyswllt Ffermio a mynediad at gymorth.”