Bydd arbenigwyr rhyngwladol yn ystyried y bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol mewn cynhadledd yn Aberystwyth fis nesaf.
Prif ystyriaethau’r gynhadledd fydd sut mae ymchwilio i’r prif heriau sy’n wynebu llunwyr polisi ac ymarferwyr iaith.
Bydd y digwyddiad yn denu academyddion ac ymarferwyr o bob rhan o Ewrop sy’n arbenigwyr ar y Gymraeg a thros ddeg o ieithoedd eraill.
‘Fwyfwy ymwybodol o’r heriau’
Eglura Elin Royles, Darllenydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth a threfnydd y digwyddiad ar ran Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS), fod y rhaglen ddeuddydd yn cynnwys sesiynau ar hybu defnydd iaith hefyd, yn enwedig mewn meysydd fel addysg, pobol ifanc, gofal iechyd, cymunedau a’r gweithle.
“Rydym yn falch iawn o gael cynnal y gynhadledd ryngwladol hon ar adeg pan fo academyddion a llunwyr polisi yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol,” meddai.
“Mae gan ymchwil academaidd ran allweddol i’w chwarae nid yn unig wrth nodi heriau ond hefyd o ran amlygu a rhannu arfer gorau a chynnig atebion ymarferol.
“Bydd ein rhaglen ddeuddydd yn cynnwys sesiynau ar hybu defnydd iaith, yn enwedig mewn meysydd allweddol fel addysg, pobl ifanc, gofal iechyd, cymunedau a’r gweithle, yn ogystal ag ymchwilio dwyieithrwydd, defnyddio technoleg fel arf ymchwil, a’r angen am ymchwil amlddisgyblaethol wrth ystyried ieithoedd lleiafrifol.”
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Orffennaf 9 a 10, ac mae rhagor o fanylion ar wefan CWPS.