Mae ymgeisydd seneddol Llafur sydd wedi cael ei barasiwtio i mewn o Loegr yn disgrifio’i dad fel “ysbrydoliaeth”, ond gall golwg360 ddatgelu ei fod e wedi gwneud bygythiadau difrifol yn erbyn rhywun yn ystod ffrae mewn bwyty yn 2014.

Mae Alex Barros-Curtis, cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfreithiol Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, yn sefyll yn etholaeth Gorllewin Caerdydd, ac mae ei dad wedi bod yn ei helpu drwy ganfasio dros Lafur.

“Dw i’n well na ti a dw i wir efo f*** all i boeni amdano,” meddai Stephen Curtis, ei dad, yn ystod y ffrae ag Alisdair Mitchell, yn ôl North Wales Live.

“Byddi di’n marw efo dy geirw.

“Ydy hwnna’n ddigon clir?”

Collodd e dribiwnlys yn dilyn yr helynt.

Ar y pryd, roedd Stephen Curtis yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol i Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, ac roedd yn feddw adeg y ffrae.

Mae hefyd yn gyn-gynhorydd dros dro i Brif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd, ac yn gyn-Gomisiynydd Heddlu i’r Cenhedloedd Unedig yng Nghosofo.

Y tad a’r mab yn cyd-ymgyrchu

Mae Alex Barros-Curtis wedi bod yn ymgyrchu dros y Blaid Lafur ers iddo gael ei ddewis fel ymgeisydd yng Ngorllewin Caerdydd, ar ôl i Kevin Brennan benderfynu rhoi’r gorau iddi ar ôl 23 o flynyddoedd.

Ar Fehefin 13, dywedodd Alex Barros-Curtis ar X (Twitter gynt) fod ei rieni “wedi rhoi eu bywdau personol i wasanaeth cyhoeddus yng ngogledd Cymru”, a’u bod nhw’n ei “ysbrydoli bob dydd”.

Er i golwg360 anfon cais am ymateb gan Lafur Cymru ac Alex Barros-Curtis ei hun, dydy’r naill na’r llall ddim wedi ymateb.

Cynghorydd “ddim wedi gweld” Alex Barros-Curtis

Daeth i’r amlwg bellach fod nifer o ymgyrchwyr Llafur asgell dde wedi penderfynu peidio ymgyrchu dros Alex Barros-Curtis am ei fod e wedi cael ei barasiwtio i mewn gan y Blaid Lafur.

Mae cwestiynau hefyd am ei rôl fel Cyfarwyddwr Materion Cyfreithiol y Blaid Lafur.

Yn ddiweddar, penderfynodd y Blaid Lafur ollwng achos yn erbyn nifer o aelodau’r blaid o gyfnod Jeremy Corbyn wrth y llyw, a hynny ar ôl gwario o leiaf £1.397m mewn ffïoedd cyfreithiol.

Roedd yr achos yn ymwneud â datganiad 860 tudalen yn 2020 oedd yn dweud bod teimladau negyddol tuag at Jeremy Corbyn wedi cyfrannu at aneffeithiolrwydd y Blaid Lafur wrth fynd i’r afael â chyhuddiadau o wrth-Semitiaeth.

Dywed Leonora Thompson, ymgyrchydd yn ardal Glan-yr-afon yng Nghaerdydd, nad yw hi wedi gweld Alex Barros-Curtis ers i’r ymgyrch gychwyn, ond dywed ei bod hi wedi bod i ffwrdd ar ddechrau’r mis.

“A bod yn onest, doeddwn i ddim yn ei nabod e,” meddai wrth golwg360.

“Fodd bynnag, o beth mae pawb arall yn ei ddweud, maen nhw’n hapus ei fod e’n ymgeisydd cryf.

“Does yna ddim amheuaeth bod teimladau cryf wedi bod am y ffordd ddigwyddodd yr enwebiad.

“Felly dw i’n nabod lot o bobol sydd ddim yn hapus efo beth sydd wedi digwydd, ond mae bron pawb wedi sylweddoli bod yna achos uwch na hynny, sef cael y Torïaid allan o bŵer.”

Cynghorydd arall sydd wedi cyfarfod Barros-Curtis yw Peter Bradbury, sydd yn cynrychioli Caerau.

“Mae e’n ddyn neis iawn,” meddai wrth golwg360.

“Mae e wedi taflu ei hun i mewn i’r ymgyrch mewn ardaloedd fel rhai fi yng Nghaerau, lle dwyt ti nid yn unig yn cnocio drysau ond yn cael sgyrsiau go iawn.

“Beth dw i eisiau ydy rhywun sydd yn mynd i gael buddsoddiad i mewn i ardaloedd fel fy un i, ac sydd efo’r glust a’r dylanwad o fewn yr hyn dw i’n gobeithio sydd yn Llywodraeth Lafur i gael y buddsoddiad hynny.

“O’m safbwynt i, mae e yma nawr ac mae e’n addo bod yn gynrychiolydd Caerdydd yn Llundain, yn hytrach na chynrychiolydd Llundain yng Nghaerdydd.”

Mark Drakeford yn gwrthod rhannu swyddfa

Ond nid pawb o fewn Llafur sy’n hapus â’r enwebiad chwaith.

Yn ôl Nation Cymru, mae’r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford wedi gwrthod rhannu swyddfa ag Alex Barros-Curtis pe bai’n fuddugol yn yr etholiad yr wythnos nesaf.

Yn ôl aelod Llafur, y rheswm yw ei fod “yn flin” ynghylch sut mae’r Blaid Lafur wedi trin aelodau lleol.

Mae Peter Bradbury, un o’r ymgyrchwyr, wedi gwrthod ymateb i hynny.

“Dw i ddim eisiau siarad am hyn,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna bobol allan efo ni heddiw sydd wedi gweithio yn y swyddfa, ac mae gennym ni berthynas wych.”