Mae Aled Thomas, ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr yng Ngheredion Preseli, yn dweud ei fod yn “grac” fod holl ymgeiswyr ei blaid yn cael eu “paentio efo’r un brwsh” yn sgil ymddygiad rhai sydd yng nghanol yr helynt betio.

Mae’r Ceidwadwyr wedi cefnu ar Craig Williams, yr ymgeisydd ym Maldwyn a Glyndŵr ac un o brif gydweithwyr Rishi Sunak, ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi gosod bet ar ddyddiad yr etholiad.

Yr awgrym yw y byddai’n debygol o wybod yr union ddyddiad, ac yntau’n cydweithio’n agos â phenaethiaid y blaid.

Mae Russell George, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros yr un etholaeth sy’n rhannu swyddfa â Craig Williams, hefyd yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo.

Yn ôl y BBC, doedd y naill na’r llall ddim yn ymwybodol eu bod nhw, ill dau, wedi gosod bet.

“Y peth ydy, ym mhob plaid, mae pobol yn gwneud camgymeriadau,” meddai.

“Ond beth sydd yn fy ngwneud i’n grac yw bod ymgeiswyr da dros Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn cael eu paentio efo’r un brwsh.”

Pa effaith?

Er bod Aled Thomas yn “grac” ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd, dydy e ddim yn credu ei bod yn debygol o gael effaith fawr yn yr etholaeth.

“Sa i’n meddwl bod e’n gwneud lot o wahaniaeth yn etholaethol, i fod yn onest,” meddai wrth golwg360.

“Dw i ddim yn ofni rhyw wipeout etholaethol o gwbl.

“Dw i wedi bod allan ledled Cymru, a dyw beth mae’r arolygon barn yn dweud ddim yn taro fi’n gywir.”

Os oes modd credu’r arolygon barn, mae’r Ceidwadwyr yn debygol o dderbyn mwy o gefnogaeth yn etholiad Senedd Cymru yn 2026, ac mae Aled Thomas yn gweld cyfle i’w blaid bryd hynny.

“Mae etholiadau Senedd Cymru yn fwy o gyfle,” meddai wedyn.

“Mae’r arolygon diweddar yn dangos bod pobol yn meddwl y byddai Andrew RT Davies yn Brif Weinidog gwell na Vaughan Gething, sydd yn beth diddorol i feddwl amdano.

“Dw i yn credu bod y Ceidwadwyr wedi gwneud gwaith da yn y Senedd, ac er bod hwn yn slogan i Lafur yn y Deyrnas Unedig, dw i wir yn meddwl bod pobol yn barod am newid yn y Senedd.”