Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo £50m o gyllid brys i alluogi ymddiriedolaethau ambiwlans i wyrdroi cau canolfannau cymunedol.
Yn ôl y blaid, byddai’r addewid ar lefel San Steffan yn sicrhau o leiaf £2.5m o gyllid ychwanegol y flwyddyn i Gymru.
Fis diwethaf, roedd ystadegau’n dangos bod 2,724 o alwadau coch (54%) lle mae bywyd yn y fantol, a 9,845 o alwadau melyn (64%) wedi methu’r targed o ateb galwadau o fewn wyth munud ac o fewn 60 munud.
Ymhlith yr achosion melyn mae strôc a thrawiad ar y galon.
Ardaloedd Powys a Chwm Taf Morgannwg yw’r ardaloedd gwaethaf o ran amserau aros, gyda 59% o alwadau coch wedi methu cyrraedd eu targedau.
Agor canolfannau a neilltuo rhagor o gyllid
Dywed Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y byddai’r £2.5m ychwanegol y flwyddyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i agor gorsafoedd ambiwlans newydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig lle mae amserau aros yn eithriadol o uchel.
Mae’r cyllid hwn ar ben y cynlluniau sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol i fuddsoddi mewn unedau brys i atal oedi wrth gludo cleifion o’r ambiwlans i’r ysbyty, gyda buddsoddiad cyfalaf rhagblaen o £280m i ehangu canolfannau triniaeth a wardiau brys, a £400m ychwanegol y flwyddyn i ychwanegu 1,000 o wlâu sydd wedi’u staffio.
Byddai’r ddau gynllun gyda’i gilydd yn cynhyrchu £34m o gyllid canlyniadol i Gymru.
Bywydau yn y fantol
“Dylai pawb fod yn hyderus wrth ffonio 999 mewn argyfwng byw neu farw y bydd ambiwlans yn cyrraedd mewn da bryd,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
“Fodd bynnag, dw i’n ymwybodol iawn nad yw hyn yn digwydd mewn nifer o rannau o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel lle dw i’n byw.
“Mae’r dystiolaeth sydd gennym yn dangos bod hyn yn costio bywydau a bod gan bobol ofn gwirioneddol na fydd ambiwlans yn cyrraedd os ydyn nhw’n mynd yn sâl neu’n cael anafiadau difrifol.
“Mae angen i ni newid cyfeiriad ar frys.
“Byddai’r cynlluniau sydd wedi’u hamlinellu gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi arian ychwanegol i adfer ac agor gorsafoedd ambiwlans newydd, ac i hyfforddi a chyflogi parafeddygon ac ymatebwyr cyntaf.
“Mae hn ar ben ein cynlluniau i drwsio gofal cymdeithasol a darparu mwy o feddygon teulu ac apwyntiadau gofal sylfaenol fyddai’n lleihau’r pwysau ar adrannau brys ac yn rhoi terfyn ar ambiwlansys yn ciwio am oriau tu allan i ysbytai oherwydd eu bod nhw’n methu gollwng cleifion.”