Mae’n rhaid i Lafur fod yn onest am eu cynlluniau i dorri cyllideb Cymru, yn ôl Plaid Cymru.

Daw sylwadau Liz Saville Roberts, oedd wedi bod yn arweinydd y Blaid yn San Steffan cyn i’r senedd gael ei diddymu ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4, yn dilyn cyhoeddi adroddiad gan Brifysgol Caerdydd ynghylch goblygiadau gwariant Llafur ar gyllidebau Cymru.

Mae’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Mehefin 26) yn rhybuddio bod gwariant arfaethedig Llafur a’r Ceidwadwyr am orfodi Llywodraeth Cymru i gyflwyno “rhagor o doriadau dwfn” i wasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl Guto Ifan o’r Ganolfan, byddai cynlluniau Llafur yn golygu bod angen £248m ychwanegol o gyllid er mwyn osgoi toriadau mewn termau real, ac y byddai’r bwlch yn cynyddu i £683m erbyn 2028-29.

Dywed ei bod hi’n “aneglur” sut y byddai modd gwireddu’r addewid o beidio â dychwelyd i lymder pe bai’r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith.

Trethu

I’r gwrthwyneb, medd Liz Saville Roberts, sy’n ymgeisydd dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd, byddai Plaid Cymru’n codi arian drwy gyflwyno trethi newydd i’r rhai sy’n gallu eu fforddio nhw.

Bydden nhw’n:

  • dod â threth enillion cyfalaf yn gyfartal â’r dreth incwm
  • codi rhwng £12bn-£15bn
  • ymchwilio i’r posibilrwydd o gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y rhai sy’n ennill y cyflogau mwyaf
  • cefnogi cyflwyno Treth Gyfoeth
  • cosbi osgoi talu trethi’n llymach
  • dileu’r ffyrdd y gall pobol annomestig osgoi talu trethi

‘Llymder mewn pecyn coch’

Yn ôl Liz Saville Roberts, dydy’r hyn mae Llafur yn ei gynnig yn “ddim byd mwy na llymder mewn pecyn coch”.

I’r gwrthwyneb, meddai, byddai pleidlais dros Blaid Cymru’n bleidlais dros “newid gwirioneddol”.

“Ers dechrau ymgyrch yr etholiad cyffredinol hwn, mae Plaid Cymru wedi bod yn onest am yr heriau sy’n wynebu gwariant cyhoeddus, gan amlinellu cyfres o fesurau i godi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus fyddai’n golygu bod corfforaethau mawr ac unigolion sy’n cael incwm heb ei ennill yn cael eu trethu’n deg,” meddai.

“Mae’n drueni mawr nad yw cynlluniau’r pleidiau eraill yn mynd i’r afael â’r heriau hyn.

“Mae’r adroddiad heddiw’n datgelu gwirionedd difrifol: dydy Llafur ddim yn bod yn onest am ba mor ddwfn yw’r toriadau maen nhw’n bwriadu eu gorfodi ar wasanaethau cyhoeddus Cymru pan fyddan nhw’n dod i rym yn San Steffan.

“Mae’n brawf fod y ‘newid’ sy’n cael ei gynnig gan Keir Starmer yn ddim byd mwy na llymder wedi’i lapio mewn pecyn coch.

“Mae’r dadansoddiad yn llwyr danseilio datganiad Vaughan Gething y byddai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn cydweithio â Llywodraeth Lafur Cymru’n dda i Gymru.

“Gydag wythnos yn unig i fynd tan yr etholiad, mae cynifer o gwestiynau sydd heb eu hated ynghylch cynlluniau gwario Llafur.

“Rhaid i Lafur Cymru amlinellu’n union pa wasanaethau maen nhw’n credu y gallan nhw wrthsefyll rownd arall o doriadau dwfn.

“O’n hysgolion i faterion gwledig, i gefnogaeth iechyd meddwl – mae ein gwasanaethau eisoes wedi’u torri hyd at yr asgwrn, ac mae angen buddsoddiad arnyn nhw.

“Yn briodol iawn, mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi beirniadu effaith ddinistriol 14 o flynyddoedd o lymder Torïaidd ar eu cyllidebau.

“Wrth iddyn nhw ymgyrchu i Keir Starmer fod yn Brif Weinidog, mae pobol Cymru’n haeddu gwybod beth fydd toriadau Llafur yn ei olygu i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau.”