Mi fydd y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn meddwl bod ganddyn nhw “siawns go dda” o gipio sedd y Ceidwadwr Craig Williams yn sgil y sgandal betio, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes.
Fe wnaeth y Blaid Geidwadol gyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 25) na fyddan nhw’n cefnogi Craig Williams, yr ymgeisydd yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr, wedi iddo gyfaddef ei fod wedi betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol dridiau cyn i Rishi Sunak ei gyhoeddi.
Mae Gareth Hughes yn tybio y bydd ei bleidlais yn gostwng yn sylweddol o ganlyniad, ac yntau bellach yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol i bob pwrpas.
Bellach hefyd, mae hi wedi dod i’r amlwg fod Russell George, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, yr un etholaeth â Craig Williams, yn destun ymchwiliad i honiadau ei fod yntau wedi gosod bet ar y dyddiad hefyd.
Mae’r ddau Geidwadwr yn rhannu swyddfa yn y Trallwng.
Mae’r Blaid Geidwadol wedi rhoi’r gorau i gefnogi eu hymgeisydd yng Ngogledd Orllewin Bryste am yr un rhesymau.
“Dw i’n meddwl bod o’n mynd i gael dipyn o effaith,” meddai Gareth Hughes wrth golwg360 am oblygiadau’r sgandal ar obeithion y Ceidwadwyr yn yr etholaeth.
“Dydy’r werin ddim yn deall llawer ar wleidyddiaeth, ond maen nhw yn deall rhywbeth am gamblo.
“Mae’r peth yn syml. Ydyn nhw wedi gwybod o flaen llaw beth oedd yn mynd i ddigwydd? Ac os ydy hynny’n wir, mae o’n drosedd – mae pawb yn deall hynny.
“Dw i’n meddwl bod o’n mynd i gael dipyn o effaith ar sut mae pobol yn eu gweld.”
Ar ben hynny, mae’r Ceidwadwr Alister Jack, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban tan yn ddiweddar, wedi gwadu ei fod wedi torri unrhyw reolau drwy fetio ym mis Ebrill ar ddyddiad yr etholiad.
Mae’r Blaid Lafur wedi cael eu tynnu i mewn i’r ddadl hefyd, ac mae Kevin Craig, eu hymgeisydd yn Suffolk Canolog a Gogledd Ipswich wedi cael ei wahardd o’r blaid am y tro, ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi betio y byddai’n colli i’r Ceidwadwyr.
‘Faint o effaith?’
Enillodd Craig Williams ei sedd yn Nhrefaldwyn cyn newid enw a ffiniau’r etholaeth, â 59% o’r bleidlais yn 2019, gan gynyddu pleidlais y Ceidwadwyr yno o 12,000 pleidlais.
Fodd bynnag, mae Gareth Hughes yn tybio y bydd y sgandal yn cael “dylanwad go eithafol” ar yr etholaeth y tro hwn.
“Y diffyg ydy, ti ddim yn gwybod faint o bobol sydd wedi pleidleisio cyn i’r peth ddod i’r amlwg,” meddai.
“Efo etholaeth fel yna, mae yna lot fawr o bobol yn pleidleisio drwy’r post o flaen llaw.
“Mae hi’n anodd bod yn bendant a dweud bod o’n mynd i golli’i sedd, ond dw i’n tybio y bydd ei bleidlais o lawr yn uffernol.
“Dydy o ddim nawr yn cael cefnogaeth ei blaid ei hun, felly mae o fewn rheswm ei fod yn mynd i gael rhywfaint o effaith. Y cwestiwn ydy, faint?
“Fyswn i’n meddwl bod y Rhyddfrydwyr a’r Blaid Lafur yn debygol o fod yn meddwl bod ganddyn nhw siawns go dda yn y sedd yma nawr.
“Maen nhw’n mynd i ymgyrchu yn fwy ffyrnig nag oedden nhw o’r blaen.
“Roedd hi’n sedd eithaf saff i’r Ceidwadwyr o flaen yr helynt yma.”
Hon yw’r unig sedd yng Nghymru sydd erioed wedi cael ei hennill gan y Blaid Lafur, felly mae’n “mynd i fod yn dipyn o dasg iddyn nhw”, medd Gareth Hughes.
“Mae’n siŵr bod y Rhyddfrydwyr, sydd wedi elwa’r sedd yma o’r blaen gydag Emlyn Hooson ac yn y blaen, [yn gobeithio].
“Yr unig beryg ydy bod y ddwy blaid yn canslo’i gilydd allan, a bod Craig Williams yn dod mewn drwy’r canol.
“Dyna pam mae gwleidyddiaeth mor ddifyr!”