Mae’r ymgeisydd Llafur yn y ras am sedd Caerfyrddin yn San Steffan yn dweud ei bod hi eisiau gwell cynrychiolaeth i fenywod Cymru yn y sefydliad.
Fe fu Martha O’Neil yn siarad â golwg360, a hithau’n un o’r ymgeiswyr ieuengaf sy’n brwydro am sedd yno ar Orffennaf 4.
Yn etholiad cyffredinol 2019 roedd mwy na hanner o aelodau seneddol y Blaid Lafur yn fenywod, a hyn am y tro cyntaf yn hanes y blaid.
Ond yng Nghymru, dim ond 32.5% o’r aelodau seneddol oedd yn fenywod.
Wrth siarad â golwg360, bu’n trafod yr hyn sy’n gyrru ei breuddwyd o fod yn Aelod Seneddol.
“Mae bod yn fenyw mewn gwleidyddiaeth weithiau yn gallu bod yn sialens,” meddai.
“Ond dw i yn mynd i mewn i wleidyddiaeth yn rhannol gan fy mod i eisiau i Gymru gael cynrychiolaeth well,” meddai.
Teulu rhiant sengl
Dywed Martha O’Neil ei bod hi’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth gafodd hi a’i theulu gan Lywodraeth Lafur Cymru yn sgil y ffaith fod ei thad wedi marw a bod ei mam wedi gorfod ei magu hi a’i brawd ar ei phen ei hun.
“Cefais fy magu mewn teulu sy’n siarad Cymraeg gan fy mam ar ôl i fy nhad farw pan oeddwn yn ifanc,” meddai wrth golwg360.
“Cafodd y profiad o golli rhiant mor ifanc effaith ddwys arna i.
“Wnaeth e bwysleisio pwysigrwydd teulu, ac mae e wedi fy ngwneud i’n rywun sydd yn wydn, yn empathetig ac yn rhywun sydd yn gallu datrys problemau – rhinweddau rwy’n credu sydd eu hangen arnon ni yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Yn tyfu i fyny mewn teulu un rhiant ac yn byw’r manteision o Lywodraeth Lafur – o’r sicrwydd roedd y Wladwriaeth Les yn ei roi i fy mam, fi a fy mrawd ar ôl i Dad farw, neu’r Lwfans Cynnal Addysg oedd yn fy ngalluogi i brynu llyfrau ar gyfer y brifysgol – yn ysgogiad mawr i fi fod eisiau gwneud yn siŵr bod pobol eraill yn cael y cyfleoedd gorau hefyd.
“Dw i’n credu mai’r synnwyr yma o degwch a chyfiawnder oedd wedi dod â fi i wleidyddiaeth Llafur.”
Iaith Gymraeg
Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae’n amlwg bod Martha O’Neil yn awyddus i ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun gwleidyddol.
“Ges i fy magu mewn tŷ sy’n siarad Cymraeg, ac mae’r iaith yn meddwl cymaint i fi,” meddai.
“Hefyd, mae e wedi bod yn arbennig cael sgyrsiau Cymraeg ar stepen y drws.
“Yn San Steffan, byddwn i eisiau defnyddio fy llwyfan i bledio’r iaith lle bynnag sy’n bosib.
“Roedd fy arwr gwleidyddol, Jim Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru ac yn gefnogwr cynnar o ddatganoli, yn debyg i fi yn ei falchder o’i hunaniaeth Gymreig.
“Mae’r iaith Gymraeg wedi rhoi gymaint i fi, a dwi eisiau ad-dalu’r caredigrwydd drwy gefnogi’r iaith yn San Steffan.”
Beth sy’n bwysig yng Nghaerfyrddin?
Ym marn Martha O’Neil, dydy Codi’r Gwastad ddim wedi “cyffwrdd yr ochrau”, a dim ond Llywodraeth Lafur all wneud unrhyw beth am y sefyllfa.
“Pan dw i allan yn cnocio drysau, y mater mwyaf, heb amheuaeth, ydy’r argyfwng costau byw, a theimlad bod rhaid troi’r dudalen ar 14 mlynedd o anhrefn Torïaidd,” meddai.
“Mae ein cymunedau wedi cael eu rhoi lawr, ac wedi eu hanghofio dro ar ôl tro. Dydy Codi’r Gwastad bron ddim wedi cyffwrdd yr ochrau.
“Mae adfer sefydlogrwydd economaidd i’r wlad ac i deuluoedd wrth galon cynllun Rachel Reeves – a dyna le ddylai e fod.
“Dw i yn hynod o gyffrous yn edrych ar gynllun Llafur i leihau costau biliau ynni trwy Ynni Cenedlaethol Prydain, cwmni ynni gwyrdd fydd wedi’i berchen gan y cyhoedd.
“Dw i yn awyddus i fod yn eiriolwr dros fuddsoddiad yng Nghaerfyrddin ac i weithio gyda darparwyr i sicrhau ein bod â’r sgiliau am waith yn y dyfodol.
“Mae e’n hanfodol ein bod yn diogelu dyfodol ein heconomïau lleol ac yn cefnogi twristiaeth leol a chynhyrchwyr bwyd.”