Gallai cau’r ffwrneisi chwyth yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot gostio dros £200m y flwyddyn i economi’r dref, yn ôl ymchwil newydd.

Cafodd yr ymchwil ei gwneud i raglen BBC Wales Investigates gan yr Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd.

Byddai’r gost ariannol yn dod yn sgil colli swyddi yno, ac er ei fod wedi edrych ar effaith colli swyddi yn safleoedd Tata ledled Cymru, ym Mhort Talbot fyddai’r effaith waethaf.

“Rydyn ni’n sôn am swyddi sy’n talu 50% yn fwy na’r cyflog cyfartalog yng Nghymru,” meddai’r Athro Calvin Jones.

“Pan fo hynny’n cael effaith wedyn ar siopau, gwestai, tafarndai, tacsis a rhannau eraill o economi Port Talbot a llefydd eraill, mae’r effaith yn fwy.”

‘Diwedd cyfnod’

Yn ôl y modelu, byddai colli swyddi Tata yn arwain at gwymp o 10% yn enillion gros y dref o £133m.

Os yw hanner y cwmnïau sy’n cyflenwi Tata’n rhai lleol, mae’n rhagweld cwymp o 15% mewn cyflogau gros.

“Mae hynny’n golygu £200m yn diflannu o’r economi leol y flwyddyn, nes mae’r bobol hyn yn dod o hyd i swyddi newydd neu mae cyflogwr arall yn dod i’r ardal,” meddai’r Athro Calvin Jones wedyn.

“Rhaid cofio mai Port Talbot yw’r awdurdod lleol â’r cyflogau uchaf ond un, neu ond dau, yng Nghymru.

“Fydd hynny ddim yn wir pan fydd 2,000 o swyddi’n mynd.

“Felly, dw i’n dyfalu mai’r cwestiwn yw beth sy’n digwydd yn lle?

“Yn yr un ffordd ag yr oedd streic y glowyr, ac wedyn, yn ddiwedd cyfnod yn y cymoedd, dyma ddiwedd cyfnod i ddiwydiant yn ne Cymru.”

‘Ansicrwydd’

Un o’r rhai sy’n wynebu cael ei ddiswyddo yw Owen Midwinter, sy’n 23 oed. Bu dwy genhedlaeth o’i deulu’n gweithio yno o’i flaen hefyd.

“Dw i’n hyfforddi i ddod yn weithredwr ar ffwrnais Rhif 4,” meddai.

“Pan fydd y ddwy flynedd yn dod i ben, byddaf mewn swydd lawn amser.

“Yn amlwg, efo’r newyddion hwn, dw i ddim yn siŵr beth sy’n mynd i ddigwydd wedyn.”

Mae’n byw efo’i bartner, Cori, a rhyngddyn nhw maen nhw’n gallu fforddio morgais.

Ond mae’r diswyddiadau’n golygu bod y dyfodol yn ansicr.

“Yn amlwg, os yw Owen yn colli’i swydd, mae’n rhoi popeth mewn perygl, fel y tŷ.

“Rydyn ni eisiau dechrau teulu yn fuan, ond mae popeth yn ansicr nes y byddwn ni’n gwybod,” meddai Cori.

‘Rhaid gweithredu’

Mae Tata yn dweud eu bod nhw’n gorfod gwneud newidiadau er mwyn gwneud yn iawn am flynyddoedd o golledion ariannol, ac er mwyn sicrhau bod gan waith dur ddyfodol.

“Rydyn ni’n colli lot o arian, nid oherwydd diffyg ymdrech pobol nag faint o arian rydyn ni wedi bod yn ei wario,” meddai Rajesh Nair, Prif Weithedwr Tata Steel UK, wrth y rhaglen.

“Mae gennym ni set o asedau sydd ar ddiwedd eu hoes.

“Mae’n rhaid i ni weithredu nawr er mwyn sicrhau bod busnes yn y dyfodol agos.”

Mae Tata wedi ymrwymo i fuddsoddi cannoedd o filoedd o bunnoedd i adeiladu ffwrnais drydan “werdd”, fyddai’n creu dur gan greu llawer llai o garbon.

Bydd BBC Wales Investigates: Town of Steel yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 9yh nos fory (nos Iau, Mehefin 27).