Yn annisgwyl ac yn groes i dueddiadau’r blynyddoedd diwethaf, mae perchennog siop recordiau yn sir Caerffili wedi llwyddo i droi busnes ar-lein yn siop mewn adeilad yng nghalon y gymuned.

Agorodd Fields of Magnetic Horizon yn Arcêd Jones yn Ystrad Mynach ar Ragfyr 2 y llynedd, a’i pherchennog yw Jonathan Richards, cynhyrchydd cerddoriaeth o’r ardal leol fu’n gweithio yn Llundain yn y 2000au.

Dychwelodd i’w dref enedigol ddeng mlynedd yn ôl, gan weithio’n llawrydd yn y diwydiant a dechrau gwerthu recordiau’n annibynnol.

O ffeiriau i’r siop

Er bod Jonathan Richards yn berchen ar y siop yn Ystrad Mynach, mae hefyd yn mynychu ffeiriau yn gyson ym Mhont-y-pŵl, Caerdydd a Merthyr Tudful er mwyn gwerthu mwy o recordiau i fwy o bobol.

“Dechreuais i werthu recordiau yn y ffeiriau yma gyda fy mhartner busnes, felly dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o fasnachu,” meddai wrth golwg360.

“Cymerais drosodd wrth redeg y ffeiriau pan nad oedd fy mhartner yn gallu rhagor oherwydd ei iechyd.”

Roedd agor siop recordiau’n ddilyniant naturiol i’r ffeiriau yma, meddai.

“Dw i erioed wedi trio masnachu, ac mae’n well ceisio a chwympo’n fflat ar eich wyneb na pheidio byth ceisio o gwbl.

“Felly, cymerais y naid.”

Angerdd yn troi’n fywoliaeth

“Dw i wedi caru cerddoriaeth ers oeddwn i yn fy arddegau, yn rhedeg o gwmpas y byd yn gwylio unrhyw fand, a phob band roeddwn i’n gallu,” meddai wedyn wrth drafod pam ei fod e’n awyddus i ddechrau busnes cerddoriaeth.

“Edrychais ar gwpl o leoliadau i’r siop, yng Nghaerffili, Pont-y-pŵl, Pontypridd… Doedd dim un yn apelio.

“Wnes i ffeindio lleoliad yn Ystrad Mynach, ond cafodd ei brynu cyn i mi allu gwneud cynnig.

“Ond cwpl o fisoedd yn hwyrach, agorodd y siop drws nesaf i gynigion.

“Ffawd oedd e!”

Mae enw’r siop yn cysylltu â gorffennol Jonathan Richards fel cynhyrchydd cerddoriaeth.

Wrth weithio i Sanctuary Records yn y 2000au, roedd yn rhaid iddo fe greu enw ar gyfer casgliad o gerddoriaeth proto-roc o’r 1970au.

“Daeth yr enw i mi un dydd, yn hollol ar hap, ond roeddwn i’n caru’r ymdeimlad o wyddonias oedd iddo fe.

“Er na chafodd y casgliad ei greu yn y diwedd, wnes i erioed anghofio am yr enw.

“Pan ddaeth yr amser i agor y siop, roedd yr enw’n berffaith; roedd e’n hollol unigryw a newydd.”

Y pandemig ddim yn codi ofn

Wrth gwrs, gallai siop oedd wedi’i hagor yn y byd ôl-bandemig fod wedi wynebu nifer o broblemau economaidd.

Ond doedd effaith y pandemig Covid-19 ar fusnesau lleol ddim yn codi ofn ar Jonathan Richards.

“Wnes i eistedd ar y syniad o agor y siop am gymaint o amser, i’r pwynt lle wnes i anghofio’n llwyr am unrhyw negyddiaeth o’r pandemig.

“Hyd yn oed yn ystod y pandemig, roedd cynlluniau ffyrlo ar gael fel clustog i fusnesau ddisgyn ’nôl arno.”

Doedd rhedeg y siop ar ei ben ei hun, hyd yn oed, ddim yn poeni dim arno.

“Dw i’n rhedeg popeth fy hun, felly mae pob penderfyniad yn dibynnu yn llwyr arna i,” meddai.

“Os dw i’n methu, dim ond un person sydd ar fai – fi.

“Felly, does dim dadlau gyda phartner nag unrhyw beth.”

Ers cyfnod y pandemig, mae cyfraddau busnes wedi cynyddu’n sylweddol, ac mae’r argyfwng costau byw hefyd wedi taro.

Ond doedd hynny, hyd yn oed, ddim am dawelu brwdfrydedd Jonathan Richards.

“Dw i ond wedi bod ar agor am chwe mis, felly mae’r busnes dal yn ifanc.

“Dw i ond yn gobeithio adennill costau cynnar.

“Mae gan y siop ddigon o gwsmeriaid cyson, felly does dim pryderon am dalu’r biliau.

“Mae cymaint o fanteision i’r siop, does dim rhaid i fi fecso am unrhyw negatifrwydd.”

Mae’n amlwg, felly, ei fod yn obeithiol iawn am ddyfodol y siop.

“Gobeithio y bydd y wlad yn troi cornel yn economaidd, ac y bydd cyfraddau llog yn lleihau fel bod busnesau bach yn gallu ffynnu unwaith eto,” meddai.