Mae Russell George, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, yn destun ymchwiliad i honiadau ei fod e wedi betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.
Daw hyn yn fuan ar ôl i Craig Williams, yr ymgeisydd Ceidwadol dros yr un ardal – yn etholaeth Maldwyn Glyndŵr – gyfaddef iddo yntau wneud yr un fath.
Mae’r ddau yn rhannu swyddfa yn y Trallwng.
Mewn datganiad, dywed Russell George y bydd yn “cydymffurfio’n llawn” ag ymchwiliad y Comisiwn Gamblo, y corff sydd hefyd yn cynnal ymchwiliad i ymddygiad Craig Williams, ond na fyddai’n “briodol gwneud sylw ar y broses annibynnol a chyfrinachol hon”.
Byddai gwneud sylw’n gyhoeddus yn “peryglu a thanseilio’r ymchwiliad”, meddai.
Dywed mai’r Comisiwn Gamblo, “ac nid y cyfryngau, sydd â’r cyfrifoldeb, y pwerau a’r adnoddau i ymchwilio’n iawn i’r materion hyn a phenderfynu pa gamau, os o gwbl, ddylid eu cymryd”.
Ychwanega na fydd yn aelod o Gabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd tra bod yr ymchwiliad ar y gweill, a hynny er mwyn osgoi “tynnu sylw’n ddiangen oddi ar eu gwaith”.
Dywed na fydd yn gwneud sylw pellach tan ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben.
‘Neb arall wedi betio’
Wrth ymateb i ddatganiad Russell George, dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod e wedi cael sicrwydd gan ei gyd-aelodau eraill nad ydyn nhw wedi betio ar ddyddiad yr etholiad.
“Mae Russell George wedi rhoi gwybod i fi ei fod e wedi derbyn llythyr gan y Comisiwn Gamblo o ran betio ar amseru’r etholiad cyffredinol,” meddai.
“Mae Russell George wedi camu’n ôl o Gabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig tra bo’r ymchwiliadau hyn ar y gweill.
“Mae pob Aelod arall o Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi betio.
“Fydda i ddim yn cyhoeddi sylw pellach am y broses barhaus hon, gan gydnabod cyfarwyddyd y Comisiwn Gamblo ynghylch cyfrinachedd i warchod uniondeb y broses.”
‘Union yr un fath’
Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi ymateb yn chwyrn.
“Allech chi ddim dyfeisio hyn,” meddai.
“Oriau ar ôl cefnogi Craig Williams, ymgeisydd sydd wedi’i ollwng ar ôl sgandal betio arall, mae Russell George i’w weld wedi gwneud union yr un fath.”