Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn “hynod bryderus” am drefniadau rheoli Amgueddfa Cymru.

Methodd y drefn lywodraethu yno â datrys anghydfod rhwng dau uwch-swyddog, y cyn-Lywydd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, a hynny ar gost o £40,500 i Lywodraeth Cymru.

Mae hyn wedi costio dros £750,000 i’r cyhoedd mewn taliadau i unigolion ac mewn costau cyfreithiol am nifer o dribiwnlysoedd.

Yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, mae problemau ar frig y sefydliad wedi datgelu gwendid sylweddol yn y ffordd mae cyrff cyhoeddus yn cael eu llywodraethu.

Ymchwiliodd y Pwyllgor i’r problemau fel rhan o’i waith craffu ar gyfrifon Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021/22.

‘Poeni’n fawr’

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth ynglŷn â methiannau ym mhrosesau mewnol y sefydliad, ac maen nhw’n codi cwestiynau am ran Llywodraeth Cymru yn yr helynt a sut mae ymyrryd pan fydd materion o’r fath yn codi mewn sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan drethdalwyr.

“Mae’r Pwyllgor yn poeni’n fawr iawn am y prosesau a gafodd eu defnyddio yn ystod yr anghydfod rhwng y cyn-Lywydd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, yn enwedig y rhyngweithio rhwng Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru,” meddai Mark Isherwood, cadeirydd y pwyllgor.

“Mae’n amlwg fod angen mesurau pellach i atal unrhyw faterion o’r fath rhag digwydd eto mewn unrhyw gorff cyhoeddus.

“Roedd y prosesau oedd ar waith ar y pryd yn gwbl annigonol, a dylai’r mater fod wedi cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl, gan osgoi costau sylweddol diangen.

“Mae’r methiant hwn yn fwy amlwg fyth heddiw, o ystyried y problemau ariannol difrifol sy’n wynebu Amgueddfa Cymru.”

Heriau ariannol

Mae’r Pwyllgor hefyd yn herio penderfyniad Llywodraeth Cymru, yn sgil yr anghydfod, i benodi Roger Lewis, y cyn-Lywydd, i rôl newydd yn arwain adolygiad llywodraethu yn Cadw.

Er bod y pwyllgor yn cydnabod nad oedd y cyn-Lywydd wedi torri telerau ei benodiad, maen nhw’n poeni am dryloywder y broses.

Erbyn hyn, mae cadeirydd a Phrif Weithredwr newydd wedi bod yn eu swyddi yn Amgueddfa Cymru ers mis Medi a Thachwedd y llynedd.

Mae’r pwyllgor yn cydnabod eu bod nhw’n canolbwyntio’n llwyr ar yr heriau ariannol sy’n eu hwynebu nhw.

“Mae’n destun pryder clywed am yr heriau sy’n wynebu Amgueddfa Cymru o ran ymdrin â phwysau cyllidebol, sy’n debygol o arwain at golli llawer o swyddi yn y sefydliad, yn ogystal â risg i’n casgliadau cenedlaethol a’n safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol,” meddai Mark Isherwood.

“Wrth graffu yn y dyfodol, bydd y Pwyllgor eisiau gwybod sut mae Amgueddfa Cymru yn ymateb i’r pwysau hyn, a sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddiogelu’r safleoedd a’r casgliadau hanfodol bwysig hyn.”

Heddiw (dydd Mercher, Mehefin 26), bydd deiseb sy’n galw am fwy o gyllid ar gyfer sefydliadau treftadaeth a hanes, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, ac a gafodd dros 12,000 o lofnodion, yn cael ei thrafod yn y Senedd hefyd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn diolch i’r pwyllgor am ei adroddiad a byddwn yn adolygu ei ganfyddiadau’n ofalus,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fe wnaeth y setliad dan sylw sicrhau canlyniad rhesymol cyn gynted â phosibl ac osgoi’r angen am anghydfod hir a fyddai’n debygol o fod wedi arwain at fwy o gost i’r pwrs cyhoeddus.

“Mae gwersi, fodd bynnag, wedi eu dysgu o’r sefyllfa yn Amgueddfa Cymru.

“Rydym yn cefnogi Amgueddfa Cymru wrth iddi barhau i symud ymlaen dan arweiniad y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr newydd.

“Mae hyn yn cynnwys ymateb i’r argymhellion a wnaed gan y panel adolygu annibynnol wedi’i deilwra.”