Ty'r Cyffredin
Fe fydd AS Llafur yn ceisio newid mesur seneddol i roi cynnydd cyflog o £250 y flwyddyn i filiwn o weithwyr sector cyhoeddus.

Yn ôl yr ymgyrchydd cymdeithasol, Frank Field, mae’r Llywodraeth yn Llundain yn torri addewid i helpu’r bobol ar y cyflogau isaf.

Mae’n dweud ei fod wedi cael gafael ar ffigurau sy’n dangos bod yr arian yn cael ei wadu i tua miliwn o weithwyr.

Yn ôl y Canghellor, George Osborne, yn ei Gyllideb frys flwyddyn yn ôl, fe fyddai 1.7 miliwn o weithwyr sector cyhoeddus sy’n ennill llai nag £21,000 y flwyddyn yn cael cynnydd cyflog.

Yn ôl Frank Field, mae ffigurau swyddogol yn dangos mai dim ond ychydig tros 700,000 sydd yn derbyn yr arian.

Fe fydd yn cynnig gwelliant i fesur yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw i geisio newid y drefn drethi i roi’r £250 i’r gweddill.

Dim ond rhai

Mewn ateb seneddol, fe gyfaddefodd y Llywodraeth mai dim ond rhai gweithwyr cyhoeddus a fyddai’n cael y cynnydd – rhai sy’n uniongyrchol o dan weinidogion llywodraeth neu sydd â chorff adolygu cyflogau.

“Cytgan cysgon y Llywodraeth glymblaid yw ein bod i gyd ‘ynddi gyda’n gilydd’,” meddai Frank Field. “Ond dyma bolisi sydd cyn belled ag y mae’n bosib bod oddi wrth hynny.”