Senedd Gwlad Groeg (Gerard McGovern CCA 2.5)
Roedd yna ragor o derfysg ynghanol prifddinas Gwlad Groeg heddiw wrth i brotestwyr a’r heddlu wrthdaro.

Roedd mwy na 25,000 o bobol wedi casglu mewn sgwâr yn Athen i brotestio tros doriadau gwario a chynnydd trethi.

Fe gafodd ffenestri eu torri a slabiau concrid eu codi wrth i ychydig gannoedd o brotestwyr ymosod ar yr heddlu.

Dyma’r protestiadau diweddara’ mewn cyfres o ddigwyddiadau o’r fath ers i Lywodraeth Gwlad Groeg gyhoeddi mesurau llym i geisio datrys diffyg ariannol y wlad.

Pecyn cymorth

Mae’r toriadau’n rhan o’r amodau sydd wedi eu gosod ar y Llywodraeth gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol a’r Undeb Ewropeaidd er mwyn derbyn pecyn cymorth.

Roedd y protestwyr yn ceisio atal aelodau seneddol rhag mynd i’r senedd i drafod y pecyn, ond roedd yna tua 5,000 o blismyn yno hefyd.

Roedd yna streic gyffredinol hefyd a phrotestiadau heddychlon yn nhref Thessaloniki.