Mae dyn wedi diflannu ac yn debygol o fod wedi marw ar ôl disgyn o long oedd yn teithio o Ffrainc i Loegr.
Yn ôl llefarydd ar ran gwylwyr y glannau Ffrainc penderfynodd y gwasanaethau brys roi’r gorau i chwilio am y dyn bore ma.
Disgynnodd y dyn oddi ar y llong mordeithio Celebrity Eclipse tua 10.15pm neithiwr, wyth milltir o Cherbourg yng ngogledd Ffrainc.
Roedd y llong sy’n eiddo i gwmni teithio Celebrity Cruises ar ei ffordd o Cherbourg i Southampton.
Does dim gwybodaeth eto ai teithiwr ynteu aelod o’r staff oedd y dyn, na chwaith o ba wlad oedd yn dod.
“Yn anffodus roedd dyn yn y môr,” meddai llefarydd ar ran gwylwyr y glannau. “Fe edrychon ni amdano ond doedden ni ddim yn gallu dod o hyd iddo.
“Rydyn ni wedi chwilio ymhobman a does dim golwg ohono felly rhaid i ni gymryd yn ganiataol ei fod wedi marw.
“Mae’r dŵr yn oer iawn a does dim gobaith iddo.”