Siopau llyfrau a nwyddau WH Smith a siopau DIY Focus yw’r ‘gwaethaf’ ym Mhrydain yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.
Roedd yr arolwg gan gwmni Which? wedi gofyn i fwy na 11,000 o gwsmeriaid roi marc allan o 100 i bob un siop oedden nhw wedi ymweld â hi o fewn y chwe mis diweddaraf.
Siop drydanol Richer Sounds oedd ar frig y rhestr. Siop sebon a cholur Lush oedd yn ail a siop cegin a chartref Lakeland oedd yn drydydd.
Roedd eu gwasanaeth a’u gweithwyr gwybodus wedi gwneud argraff ar gwsmeriaid, yn ôl arolwg Which?
WH Smith a Focus oedd ar waelod y pentwr, â sgôr o ddim ond 54 yr un.
Roedd cwsmeriaid yn anhapus â phrisiau uchel a siopau gorlawn WH Smith. Mae Focus bellach wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Asda oedd yr archfarchnad fwyaf poblogaidd, yn y 35ain safle, tra bod Tesco ar waelod y pentwr, yn y 82fed safle.
Ymateb
“Mae siopau mwyaf poblogaidd y wlad yn gwybod yn union beth mae eu cwsmeriaid nhw ei eisiau ac maen nhw’n ymateb,” meddai Martyn Hocking, golygydd Which?
“Mae ganddyn nhw gynnyrch o safon, gwasanaeth da i gwsmeriaid, ac mae siopa yno’n bleser.
“Mae angen i’r siopau sydd ar waelod y rhestr ddechrau dilyn eu hesiampl.”
Dywedodd llefarydd ar ran WH Smith fod canlyniad yr arolwg wedi eu “synnu” nhw.
“Dyw canfyddiadau arolwg Which? ddim yn cyd-fynd â’n harolygon ni nag arolygon annibynnol eraill,” meddai.
Y Siopau Gorau
1 Richer Sounds – 86
2 Lush – 84
3 Lakeland – 83
4 Disney Store – 80
5 John Lewis – 79
6 Fenwick – 78
7 Waterstone’s – 77
8 Fat Face – 76
9 Clarks – 74
10 Siopau DIY a garddio annibynol – 74
Y siopau gwaethaf
89 Warehouse – 59
= TJ Hughes – 59
= Homebase – 59
=Matalan – 59
93 HMV – 58
94 Curry’s Digital – 57
= BHS – 57
= Poundstretcher – 57
97 TK Maxx – 56
98 PC World – 55
99 Focus – 54
= WH Smith – 54