Arnold Schwarzenegger
Wythnos wedi i Arnold Schwarzenegger a’i wraig gyhoeddi eu bod yn bwriadu gwahanu, mae un o’r rhesymau dros y penderfyniad wedi dod i’r amlwg.

Yn ôl y Los Angeles Times, gwahanodd y ddau wedi i gyn-Lywodreathwr California, Arnold Schwarzenegger, gyfaddef ei fod wedi cael plentyn gydag un o staff eu cartref.

Cyhoeddodd y ddau eu bod yn gwahanu mewn datganiad ar y cyn ar 9 Mai eleni, wedi 25 mlynedd o briodas. Symudodd Maria Shriver o’r plasdy teuluol yn gynharach eleni.

“Wedi gadael swyddfa’r Llywodraethwr, wnes i ddweud wrth fy ngwraig am rywbeth oedd wedi digwydd dros ddegawd yn ôl,” meddai Shwarzenegger mewn datgaiad.

“Rydw i’n deall ac yn haeddu’r ymateb dig a siomedig ymhlith fy ffrindiau a fy nheulu. Does dim esgusodion ac rydw i’n cymryd y cyfrifoldeb am y dolur yr ydw i wedi ei achosi. Rydw i wedi ymddiheuro i Maria, fy mhlant, a fy nheulu. Mae’n wir ddrwg gen i.

“Rwy’n gofyn i’r cyfryngau barchu fy ngwraig a fy nheulu yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai’r datganiad. “Rydw i’n haeddu eich sylw a’ch beirniadaeth, ond dyw fy nheulu ddim.”

Roedd mam plentyn siawns Arnold Schwarzenegger wedi bod yn gweithio i’r teulu ers 20 mlynedd, ac ymddeolodd ym mis Ionawr.