Banc Lloegr
Neidiodd chwyddiant i’w lefel uchaf mewn dwy flynedd a hanner fis diwethaf, yn ôl ffigyrau swyddogol gyhoeddwyd heddiw.
Cynyddodd chwyddiant i 4.5% ym mis Ebrill o 4% ym mis Mawrth, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd economegwyr wedi rhagweld cynnydd llawer llai, i 4.1%.
Y tro diwethaf i chwyddiant fod yn uwch oedd ym mis Medi 2008 pan darodd 5.2%. Syrthiodd yn ôl i 4.5% ym mis Hydref yr un flwyddyn.
Y cyfraniad mwyaf at gostau byw oedd prisiau tocynnau hedfan, oedd wedi cynyddu 29% ym mis Ebrill.
Yn ogystal â hynny cynyddodd pris alcohol a tobacco 5.3% rhwng mis Mawrth a mis Ebrill.
Banc Lloegr
Bydd rhaid i lywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, ysgrifennu llythyr at y Canghellor George Osborne yn esbonio pam fod chwyddiant yn uwch na tharged 2% y llywodraeth.
Dyma’r chweched chwarter yn olynol y mae wedi gorfod anfon llythyr o’r fath.
Mae Mervyn King eisoes wedi dweud ei fod yn disgwyl i chwyddiant daro 5% yn hwyrach eleni cyn disgyn drwy gydol 2012 a 2013.
Ond mae’r cynnydd mewn chwyddiant yn debygol o roi rhagor o bwysau ar Fanc Lloegr i godi cyfraddau llog o 0.5%.
Dywedodd undeb Unison fod strategaeth economaidd Llywodraeth San Steffan “yn amlwg yn methu”.
“Rhaid i’r Llywodraeth feddwl am gynllun amgen,” meddai Dave Prentis, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb.
“Mae teuluoedd yn wynebu prisiau sy’n codi ond heb unrhyw gynnydd mewn cyflogau.”