Dominique Strauss-Kahn
Mae pennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Dominique Strauss-Kahn, wedi ei gadw dan glo yn yr Unol Daleithiau.

Penderfynodd barnwr yn Efrog Newydd na ddylai gael ei ryddhau ar fechnïaeth rhag ofn iddo ffoi i Ffrainc.

Roedd wedi ei arestio ar awyren oedd ar fin hedfan i Ffrainc ym Maes Awyr Kennedy,

Ymddangosodd Dominique Strauss-Kahn, 62 oed, yn y llys am y tro cyntaf ers cael ei arestio, ond ni ddywedodd air wrth i’w gyfreithiwr ddadlau ar ei ran.

Y cyhuddiad

Mae wedi ei gyhuddo o ymosod ar forwyn oedd wedi mynd i lanhau ei ystafell mewn gwesty moethus ger Times Square ddydd Sadwrn.

Dywedodd y forwyn 32 oed wrth yr awdurdodau ei bod hi wedi credu fod yr ystafell yn wag ond fod Dominique Strauss-Kahn wedi ymddangos o’r ystafell ymolchi yn noeth.

Roedd wedi rhedeg ar ei hôl hi i lawr y cyntedd, cyn ei llusgo hi’n ôl i’r ystafell ymolchi, meddai.

Honnodd ei fod wedi cydio yn ei bronnau, wedi ceisio tynnu ei dillad a’i gorfodi i gael rhyw geneuol, yn ôl y gwyn aeth o flaen y llys.

Ffoi

Llwyddodd y forwyn i ffoi a rhoi gwybod i weithwyr y gwesty beth oedd wedi digwydd, yn ôl yr awdurdodau. Cafodd ei thrin yn yr ysbyty am fan anafiadau.

“Mae’r dioddefwr eisoes wedi darparu adroddiad pwerus a manwl ynglŷn â’r ymosodiad rhywiol treisgar,” meddai dirprwy dwrnai’r cylch, John McConnell.

Dywedodd yr amddiffyn nad oedden nhw’n credu y byddai’r dystiolaeth fforensig yn awgrymu “fod y cyfarfod yn un treisiol”.

Yn sgil digwyddiadau’r penwythnos mae honiadau eraill am ymosodiadau gan bennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi dechrau denu sylw’r wasg.

Yn Ffrainc, dywedodd cyfreithiwr nofelydd ei bod hi’n debygol o gyhuddo Dominique Strauss-Kahn o ymosod arni’n rhywiol naw mlynedd yn ôl.

Mae arestiad pennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi ysgwyd y byd ariannol a gwleidyddiaeth Ffrainc.

Roedd yn ffefryn i olynu  Nicolas Sarkozy yn arlywydd y wlad yn etholiad arlywyddol y wlad y flwyddyn nesaf.