Mae elusen anifeiliaid yr RSPCA wedi dweud eu bod nhw’n pryderu yn fawr ar ôl cyfres o achosion o wenwyno cathod ar draws Cymru.

O Gaergybi i Aberdaugleddau, mae’r elusen wedi derbyn galwadau gan bobol sy’n credu fod eu cathod wedi eu gwenwyno, medden nhw.

Yn ystod mis Chwefror fe fu farw cath yng Nghwmcarn, ger Casnewydd. Dangosodd archwiliad milfeddygol ei bod wedi ei gwenwyno gan wrthrewydd.

Honnodd perchennog y gath fod chwech arall yn yr ardal wedi marw gan ddioddef o’r un symptomau o fewn y flwyddyn ddiwethaf.

Ym mis Ebrill derbyniodd yr RSPCA sawl galwad. Cafodd tair cath ifanc yn ardal Parc y Frenhines, Caergybi, eu lladd gan wenwyn.

Goroesodd un gath yn ardal Basaleg, Casnewydd, er iddi gael ei gwenwyno.

Ddechrau mis Mai bu’n rhaid rhoi pum cath yn Aberdaugleddau i lawr ar ôl iddyn nhw gael eu gwenwyno gan wrthrewydd.

“Mae’r marwolaethau yn amheus ac yn ein poeni ni’n fawr iawn,” meddai uwch-arolygydd yr RSPCA yng Nghymru, Martyn Hubbard.

“Mae angen cymorth y cyhoedd arnom ni i ymchwilio i’r mater.

“Yn anffodus unwaith y mae cath yn llyncu gwrthrewydd mae ei arennau fel arfer yn methu o fewn dyddiau.

“Mae cathod yn hoffi’r blas melys ond does dim rhaid iddyn nhw lyncu llawer iawn ohono cyn mynd yn ddifrifol wael.

“Yr unig fodd o wella’r gath yw ei drin o fewn 24 awr, ond dyw hynny ddim fel arfer yn bosib am nad yw’r gath yn dangos unrhyw symptomau i ddechrau.

“Erbyn i’r gath ddechrau ymddangos yn sâl mae fel arfer yn rhy hwyr i’w hachub.”

Gall unrhyw un sy’n achosi dioddefaint diangen i gath wynebu chwe mis yn y carchar a dirwy o £20,000.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r RSPCA ar 0300 1234999.