Map yn dangos Misrata (CCA 3.0)
Mae lluoedd Llywodraeth Libya wedi bod yn ymosod yn galed ar borthladd Misrata, gydag adroddiadau bod dwsinau wedi eu lladd.
Ar ôl i ymosodiadau awyr gan NATO orfodi lluoedd y Cyrnol Gaddafi i adael y ddinas, maen nhw wedi bod yn ymosod arni gyda rocedi a gynnau mawr.
Roedd cannoedd o labrwyr ac ymfudwyr o Affrica yn aros yn y porthladd am long i’w cario nhw oddi yno.
Fe fu’n rhaid iddyn nhw guddio mewn ceir ac mewn blychau cargo wrth i’r ymosodiadau barhau trwy’r prynhawn a fin nos.
Gyda lluoedd Gaddafi yn ymosod ar y ddinas o bob ochr ar y tir, mae’r porthladd bellach yn allweddol yn y frwydr am Misrata.
Mae llongau’n dod â chyflenwadau meddygol a bwyd i’r ddinas drwy’r porthladd yn ogystal â helpu pobol i ddianc.