Llun o'r canser (Nephron CCA 3.0)
Fe ddylai meddygon teulu fod yn rhoi profion cynharach i ddod o hyd i ganser yr wygelloedd – yr ofari – yn ôl y corff iechyd, NICE.
Mae mwy na 300 o ferched yng Nghymru’n cael diagnosis o’r canser bob blwyddyn ac mae 65% yn marw o fewn pum mlynedd.
Yn ôl NICE – Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Clinigol ac Iechyd – fe ddylai meddygon ddefnyddio prawf gwaed ar ferched tros 50 oed sy’n dangos symptomau posib.
Mae hwnnw ar gael eisoes am tuag £20 y tro ac, yn ôl NICE, fe fyddai ei ddefnyddio’n gynt yn gwneud gwahaniaeth.
Ffigurau goroesi’n waeth
Mae ffigurau goroesi’r canser yn waeth yng ngwledydd Prydain nag yn llawer o wledydd eraill Ewrop, meddai Charles Redman, yr arbenigydd sydd wedi dyfeisio’r canllawiau newydd.
“R’yn ni’n ceisio sicrhau bod mwyafrif y menywod sy’n dangos symptomau amheus yn cael diagnosis mor gynnar â phosib,” meddai.
Yn ôl Gilda Witte o’r mudiad Ovarian Cancer Action mae 90% o fenywod yn gwella o’r clefyd os yw’n cael ei ffeindio cyn iddo ledu o’r wygelloedd.
Un broblem gyda’r salwch yw bod y symptomau’n debyg i rai mewn afiechydon eraill – teimlad o fod yn llawn ar ôl bwyta ychydig bach ac angen i basio dŵr yn gyson.