Prifysgol Caergrawnt - llai o effaith
Fyddai hanner myfyrwyr heddiw ddim wedi mynd i brifysgol pe bai’n rhaid iddyn nhw dalu ffioedd o £9,000 y flwyddyn, meddai arolwg newydd.
Fyddai traean ddim wedi mynd gyda ffioedd o £6,000 chwaith yn ôl yr arolwg gan gwmni High Fliers Research.
Myfyrwyr o ysgolion y wladwriaeth a merched fyddai fwya’ tebyg o gadw draw – fyddai 59% o fyfyrwyr o ysgolion cyfun ddim wedi mynd.
Roedd y cwmni wedi holi mwy na 12,500 o fyfyrwyr mewn prifysgolion yn Lloegr, lle mae mwyafrif prifysgolion eisoes yn dweud y byddan nhw’n codi’r uchafswm o £9,000.
Effaith polisi
Yn ôl trefnwyr yr arolwg, mae’r ffigurau’n dangos effaith polisi newydd y Llywodraeth yn Llundain o ganiatáu i brifysgolion bron dreblu eu ffïoedd.
Yng Nghaerdydd, mae’r Llywodraeth wedi cytuno i dalu’r cynnydd i bob myfyriwr o Gymru, hyd yn oed y rhai sy’n mynd i brifysgol yn Lloegr.
Mae’r anfodlonrwydd ymhlith myfyrwyr o ysgolion bonedd yn llawer llai, meddai’r arolwg, ac fe fyddai mwy na thri chwarter y myfyrwyr yn Rhydychen a Chaergrawnt wedi mynd i brifysgol, ffioedd neu beidio.