Y Gelli Gyffwrdd (o wefan y cwmni
Mae plant ysgol gynradd yn Blackpool yn ystyried sut i dalu teyrnged i’r bachgen 11 oed a gafodd ei ladd yn namwain y Gelli Gyffwrdd.

Fe gyhoeddodd yr heddlu mai bachgen o’r enw Bailey Sumner oedd wedi marw brynhawn Sul wrth gwympo oddi ar wifren wib yn y parc antur ger Y Felinheli.

Yn ôl prifathro Ysgol Gynradd Boundary, roedd y bachgen yn boblogaidd iawn yn yr ysgol ac yn  dda iawn mewn mathemateg a chwaraeon, yn enwedig pêl-droed a beicio BMX.

“Roedd Bailey’n ddyn ifanc poblogaidd iawn ac mae holl gymuned yr ysgol wedi eu syfrdanu a’u tristáu,” meddai.

Mae Crwner Eryri, Dewi Pritchard Jones, wedi agor y cwest i farwolaeth y bachgen ac mae ymchwiliadau’n cael eu cynnal gan Heddlu Gogledd Cymru, Y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Chyngor Sir Gwynedd.