Mae o leia’ naw person wedi cael eu lladd ar ôl i ddau gar ffrwydro yn agos i swyddfeydd llywodraeth Irac yn Baghdad. 

 Fe gafodd 23 o bobl eu hanafu’n ogystal yn y ffrwydrad.

Dywedodd llefarydd ar ran byddin Irac fod yr hunan fomwyr wedi targedu cerbydau dau swyddog o fewn llywodraeth y wlad a oedd yn teithio i’r gwaith.  Fe ddywedodd yr heddlu bod pump o filwyr Irac ymysg y meirw. 

 Fe ffrwydrodd y ceir ychydig wedi 8.00 y bore amser lleol mewn rhes o gerbydau oedd yn teithio mewn i’r ardal lle mae swyddfeydd y senedd a’r weinyddiaeth yn ogystal â sawl llysgenhadaeth tramor. 

 O fewn munudau fe ffrwydrodd dau fom arall ar ochr y ffordd ychydig filltiroedd wrth y ffrwydrad cyntaf.  Mae’r heddlu wedi dweud bod naw person wedi cael eu hanafu yn yr ymosodiad tu allan i fwyty yn Jadriyah i’r de ddwyrain o’r Afon Tigris. 

 Mae’r gwrthdaro o fewn Irac yn parhau gyda gwrthryfelwyr yn ceisio tynnu sylw at ansefydlogrwydd Irac yn ddyddiol wrth i fyddin yr Unol Daleithiau baratoi i adael y wlad yn gyfan gwbl erbyn diwedd y flwyddyn.