Atomfa Dai-ichi Fukushima ar ôl difrod y ffrwydradau
Mae darlleniadau robot o ymbelydredd mewn dau adeilad yn atomfa Fukushima yn Japan yn dal yn rhy uchel i weithwyr allu mynd i mewn.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg ar ôl i’r awdurdodau gyhoeddi cynllun ddoe i wneud yr atomfa’n ddiogel o fewn cyfnod o naw mis.

Does dim gweithwyr wedi mynd i mewn i dau adeilad adweithyddion atomfa Dai-ichi  ers y dyddiau cyntaf wedi i’r systemau oeri gael eu difrodi gan y daeargryn a’r tsunami ar 11 Mawrth.

Am y tro cyntaf, aeth robot i mewn i’r ddau adeilad i fesur tymheredd, pwysedd ac ymbelydredd ddoe, ond fe fydd yn rhaid lleihau lefelau ymbelydredd cyn caniatáu i weithwyr fynd i mewn.

Fodd bynnag, dywedodd Hidehiko Nishiyama o Asiantaeth Diogelwch Niwclear a Diwydiannol Japan y dylai fod modd i’r cwmni gadw at ei amserlen o wneud yr atomfa’n ddiogel erbyn tua diwedd y flwyddyn.

Milwyr

Dywedodd Gweinyddiaeth Amddiffyn Japan y bydd 2,500 o filwyr yn cael eu hanfon mewn dillad amddiffynnol i helpu’r cannoedd o blismyn i chwilio am gyrff o amgylch yr atomfa.

Credir bod tua mil o gyrff wedi cael eu claddu yn y pentyrrau mwdlyd o dai, ceir a chychod pysgota.

Mae tua 27,000 o bobl wedi marw neu ar goll yn sgil y daeargryn neu’r tsunami.

Ac mae’r llywodraeth wedi dod o dan bwysau cynyddol ddatrys yr argyfwng sydd wedi cael ei achosi gan y ddamwain niwclear waethaf yn hanes Japan, gyda’r Prif Weinidog Naoto Kan yn wynebu galwadau am iddo ymddiswyddo.

Gan bwysleisio bod y llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â’r argyfwng, dywedodd ei fod yn ymddiheuro’n ddiffuant am yr hyn sydd wedi digwydd.