Enda Kenny, prif weinidog Iwerddon
Bydd Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon, Enda Kenny yn ymweld â Stryd Downing heddiw i drafod ymweliad y Frenhines i Iwerddon yn ogystal â materion diogelwch ac economaidd.
Mae disgwyl i Enda Kenny a Prif Weinidog Prydain, David Cameron drafod cysylltiadau masnach a buddsoddi rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain.
Cyn teithio i Lundain, fe ddywedodd Enda Kenny bod y daith yn rhan o ymdrech diplomyddol rhyngwladol i adfer hyder gwledydd cyfagos a gweddill y byd yn Iwerddon.
“Fe fyddai’n cyfarfod gyda’r prif weinidog i bwysleisio ein hymroddiad i adeiladu ar y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon ac i gryfhau’r berthynas rhwng ein gwledydd,” meddai Enda Kenny.
“Fe fyddwn ni hefyd yn rhannu ein barn ar faterion economaidd a’r Undeb Ewropeaidd.”
Fe fydd y Taoiseach yn annerch i dorf o tua 200 o bobl yn Llundain i sôn am ba gamau mae’r llywodraeth newydd wedi cymryd yn eu pum wythnos gyntaf wrth y llyw.