Daeth i’r amlwg heddiw fod dau beilot wedi disgyn i gysgu wrth y llyw yn ystod taith hir mewn awyren.

Dywedodd un o’r peilotiaid wrth y BBC ei fod wedi disgyn i gysgu am tua 10 munud wrth i’w gyd-beilot orffwys ei ben.

Daw hyn wedi i astudiaeth a gomisiynwyd gan undeb peilotiaid Bapla ddangos fod 45% ohonyn nhw wedi dioddef o ganlyniad i “flinder mawr”.

Roedd tua 20% o’r peilotiaid yn teimlo bod blinder wedi effeithio ar eu gwaith mwy nag unwaith yr wythnos.

Dywedodd y peilot ddisgynnodd i gysgu fod yr awyren ar awto-beilot ar y pryd ond gallai fod wedi cysgu drwy rybudd diogelwch pe bai rhywbeth o’i le.

“Pan ddeffrais i fe ges i dipyn o fraw,” meddai. “Y peth cyntaf i’w wneud oedd gwirio ein bod ni’n ddigon uchel, ac yn mynd yn ddigon cyflym.

“Fe allai’r awto-beilot ddod i ben. Fe fyddai hynny’n beryglus iawn pe bai awyren yn dod i’r cyfeiriad arall.

“Mae yna systemau sy’n rhybuddio os wyt ti’n colli uchder ond dydyn nhw ddim yn gwneud sŵn uchel iawn.

“Fe fyddai’n ddigon hawdd cysgu drwy’r cwbl a does dim angen i mi esbonio beth fyddai canlyniadau hynny.”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Balpa, Jim McAuslan, wrth bapur newydd y Daily Telegraph fod “blinder yn broblem fawr i beilotiaid yn fyd eang”.

“Mae rhwng 15% a 20% o ddamweiniau o ganlyniad i flinder. Mae’n anhygoel bod yr Undeb Ewropeaidd bellach yn awgrymu ymestyn oriau hedfan peilotiaid.”