A55
Mae ymgyrchwyr yn bwriadu cynnal protest ar yr A55 ddechrau’r mis nesaf er mwyn tynnu sylw at brisiau petrol uchel.

Mae ambell i orsaf betrol bellach yn gwerthu disel am £1.52 ac mae pris petrol wedi cyrraedd £1.42 yn ôl gwefan PetrolPrices.com.

Dywedodd Kevin Bowker, of Saltney, a Ian Charlesworth, o Benarlâg, eu bod nhw’n bwriadu gyrru’n araf iawn ar hyd yr A55 ar 8 Mai.

Roedd gymaint o gefnogaeth i’r syniad fel y byddai yna ddau gonfoi gwahanol yn cyrraedd y Rhyl o’r ddau gyfeiriad, medden nhw. Bydd un yn dechrau o Gaer a’r llall o Landudno ar y prynhawn Sul.

“Mae 70 o bobol eisoes wedi cytuno i gymryd rhan yn y confoi, ddeuddydd yn unig ar ôl ei gyhoeddi,” meddai Kevin Bowker wrth bapur newydd y Daily Post.

“O ganlyniad rydyn ni am drefnu dau gonfoi ar wahân, un o Gaer a’r llall o Landudno, gan gyfarfod yn Rhyl.

“Mae yna bryderon mawr fod pris petrol yn mynd i daro £1.50. Mae’n dangos pa mor ddi-werth oedd penderfyniad George Osborne i dorri 1c o’r dreth ar betrol.”