Llyndy Isaf (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Mae angen datganoli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chreu corff sy’n unigryw i Gymru.
Mewn ymateb i apêl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf am £1 miliwn i brynu fferm Llyndy Isaf yn Eryri, mae Royston Jones yn gofyn i bobol Cymru droi eu cefnau ar yr ymgyrch nes bydd corff sy’n unigryw i Gymru – fel sydd yn yr Alban – yn cael ei greu.
“Mae 14 mlynedd ers yr etholiad datganoli ond yr oll sydd gynnon ni yw datganoli gwleidyddol,” meddai’r cenedlaetholwyr oedd yn un o sylfaenwyr y Cyfamodwyr.
“Mae cyrff fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cario ymlaen fel tase datganoli heb gymryd lle! Nawr maen nhw eisiau i ni’r Cymry roi arian i gyfundrefn Seisnig er mwyn iddyn nhw allu prynu mwy o diroedd ein mamwlad …”
Dyw Royston Jones chwaith, meddai, ddim yn credu bod angen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol brynu’r fferm 600 erw ar lannau Llyn Dinas er mwyn ei gwarchod rhag datblygiad masnachol.
“Mae hynny’n wallgof! Mae’n mynd â ni yn ôl i Hafod y Llan (apêl flaenorol i brynu fferm 2,534 erw am £3.56 miliwn yn Eryri) – mae’r ddwy fferm o fewn y Parc Cenedlaethol a does yna neb yn mynd i wneud dim byd iddyn nhw oherwydd hynny – allwch chi ddim rhoi Disneyland mewn Parc Cenedlaethol.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 7 Ebrill