Elfyn Llwyd - a fydd ei sedd yn saff?
Gall y cynllun i dorri ar chwarter Aelodau Seneddol Cymru “ddiddymu’r” Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn San Steffan, yn ôl un arbenigwr gwleidyddol.
“Os rhowch chi Brycheiniog a Maesyfed i mewn gyda Mynwy, er enghraifft, a rhoi rhannau o Sir Faldwyn i mewn gydag un o etholaethau Llafur yn y gogledd-ddwyrain, mae rheini’n newidiadau mawr”, meddai’r Athro Russell Deacon o Athrofa Caerdydd., gan gyfeirio at ddwy o seddi cryfaf y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
“Bydd newid y seddi yn creu cymlethdodau mawr os y’ch chi’n cymryd i ffwrdd cadarnleoedd rhai o’r pleidiau”, meddai.
Eisoes, mae’r Arglwydd Kinnock wedi crybwyll yn Golwg y bydd problemau wrth geisio cyfuno seddi Powys, yn ogystal â seddi’r gorllewin a’r gogledd (ardaloedd lle mae Plaid Cymru’n digwydd bod yn gryf).
“Fe allwn ni weld diddymu’r pleidiau llai o San Steffan”, meddai Russell Deacon.
“Mae hynny’n mynd i ddigwydd. Nid yw’n ddibynnol ar refferendwm, fel AV. Y mae e ar y ffordd.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 7 Ebrill