Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig ar y ffordd i fod yr ail blaid fwyaf yn y Cynulliad Cenedlaethol, a hynny am y tro cyntaf ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999.
Ond, yn ôl y cyn-ymgeisydd Ceidwadol Felix Aubel, bydd llwyddiant ei blaid yn dod yn sgîl cwymp yng nghefnogaeth Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn hytrach na thŵf mawr o blaid Ceidwadwyr.
Mae arbenigwyr wedi darogan y bydd y Ceidwadwyr yn ennill tua 14 sedd (ennill dwy), gyda Phlaid Cymru yn disgyn i’r trydydd safle gyda dim ond 10 sedd (colli pump).
“Gall y Ceidwadwyr ddod yn ail yn etholiadau’r Cynulliad, heb weld cynnydd yn y bleidlais,” meddai Felix Aubel.
A bydd y Ceidwadwyr yn elwa wrth i’r etholwyr ddefnyddio’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn hytrach na’r Ceidwadwyr, fel y prif gocyn hitio am benderfyniadau’r llywodraeth glymblaid yn San Steffan, yn ôl Felix Aubel.
“Mewn cynghorau sir yn Lloegr, mae’r Ceidwadwyr wedi cipio seddi yn Nyfnaint a Chernyw oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Beth sydd wedi digwydd yw bod y Democratiaid yn cwympo’n fwy na’r Ceidwadwyr, a bod y Ceidwadwyr yn cipio’r sedd.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 7 Ebrill