Yr Athro Colin Williams
Fe ddylai’r Comisiynydd Iaith newydd fod yn atebol i holl aelodau’r Cynulliad, ac nid Gweinidog Treftadaeth y Llywodraeth yn unig.
Fe fyddai sefyllfa fel hyn yn rhoi’r rhyddid i’r Comisiynydd wneud ei waith heb boeni am ymyrraeth, yn ôl academydd amlwg sy’n arbenigo ar sefyllfa ieithoedd mewn gwledydd dwyieithog.
Mewn darlith ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd yr Athro Colin Williams yn trafod y gwersi i Gomisiynydd Iaith yng Nghymru o brofiad Canada.
“Mae’r Comisiynydd yn atebol i’r Senedd yng Nghanada,” meddai’r Athro a fu’n byw am gyfnod yn y wlad lle mae’r Ffrangeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol ers 1970.
“Mae’r system yn gwarantu annibyniaeth y Comisiynydd o unrhyw ymyrraeth wleidyddol yn uniongyrchol, neu o drio lleihau adnoddau dynol neu adnoddau cyllidol i’r swydd petai’r Comisiynydd yn adrodd yn anffafriol.”
Yn ôl Colin Williams, prif darged y Comisiynydd yw adrannau eraill o’r llywodraeth gydag adran arall yn gyfrifol am hyrwyddo’r ieithoedd, sy’n wahanol i’r awgrym hyd yn hyn yng Nghymru.
“Mae’r Mesur yn awgrymu bod y Comisiynydd yn paratoi adroddiad blynyddol i’r Gweinidog sy’n cyllido neu’n sbonsro’r Adran,” meddai Colin Williams. “Dw i’n credu taw’r Cynulliad ei hun ddylai fod yn blatfform i’r Comisiynydd gynta’, nid y Gweinidog. Pwy a ŵyr beth fydd y Gweinidog yn meddwl o briff y Comisiynydd yn y dyfodol?”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 7 Ebrill