Cheryl Gillan
Does dim bwriad i ddatganoli S4C, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy’n mynnu y bydd annibyniaeth y sianel yn ddiogel o dan y BBC.
Roedd Cheryl Gillan yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf ar gyfer lansiad ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Does dim cynlluniau i ddatganoli darlledu i unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig. Mae e yn dod o dan adain y DCMS,” meddai.
“Rydyn ni wedi sicrhau bod yr arian mae S4C yn ei gael yn gadarn a bod y sianel yn symud yn ei blaen. Dw i wastad wedi dweud o’r dechrau fod S4C angen amser i ddelio gyda’i thrafferthion mewnol a dyw hi ddim cweit wedi cyrraedd yr ochr arall eto,” meddai.
Yn ystod y cyfweliad fe ddywedodd bod annibyniaeth y sianel yn bwysig a’i bod yn hyderus y bydd hyn yn digwydd trwy gyd-weithio gyda’r BBC.
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 7 Ebrill