Gwobr Llyfr y Flwyddyn
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai siop John Lewis, Caerdydd, fydd un o brif noddwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni.
Dyfernir gwobr Llyfr y Flwyddyn yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.
Bydd awduron y cyfrolau orau yn y ddwy iaith yn derbyn gwobr o £10,000 yr un.
Bydd y Rhestr Hir yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Mercher, 13 Ebril, ar raglen Wedi 7.
“Ers agor drysau ein siop gyntaf yng Nghymru, rydym wedi croesawu ymwelwyr ledled y wlad a mae cysylltu â darllenwyr yng Nghymru yn holl bwysig yn hynny,” meddai Chris Earnshaw, rheolwr John Lewis.
“Mae Partneriaeth John Lewis yn falch iawn o weithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar y wobr uchel ei bri yma ar gyfer gweithiau llenyddol yng Nghymru.”
Y dyddiadau
Dydd Iau 19 Mai, bydd y Rhestr Fer yn cael ei gyhoeddi mewn dau leoliad gwahanol ar yr un pryd, sef Galeri Caernarfon a Bar Espresso John Lewis, Caerdydd
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Iau 7 Gorffennaf 2011, yn Cineworld, Caerdydd.
Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni yw’r awdur a’r academydd Simon Brooks (Cadeirydd), y bardd a’r beirniad llenyddol Gerwyn Wiliams a’r newyddiadurwraig a’r gyflwynwraig Kate Crockett.
Y beirniaid ar y panel Saesneg yw Francesca Rhydderch, Deborah Kay Davies a Jon Gower.
“Tipyn o fraint oedd cael beirniadu Llyfr y Flwyddyn eleni,” meddai Simon Brooks, Cadeirydd y beirniaid Cymraeg.
“Roedd y pethau gorau a gafwyd gystal â’r cynnyrch mewn unrhyw iaith, ac yn gyfraniad arhosol i lenyddiaeth Gymraeg.”
“Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dangos yr hyn mae Cymru yn medru cyflawni yn ei gelfyddyd ddihafal,” meddai Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.
“Os nad ydych wedi darllen rhai o’r cyfrolau buddugol yn y gorffennol, yna dyma’r flwyddyn i chi ddechrau arni.”
Enillydd y wobr Gymraeg llynedd oedd John Davies am ei lyfr taith Cymru: y 100 lle i’w gweld cyn marw (Y Lolfa).
Caiff Llyfr y Flwyddyn 2011 ei weinyddu gan Llenyddiaeth Cymru a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.