Llys y Goron Caerdydd
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn cael ei feirniadu am fethu â chyflwyno tystiolaeth yn ddwyieithog yn achos dau brotestiwr iaith.

Bu’n rhaid gohirio’r achos yn Llys y Goron Caerdydd yn erbyn Jamie Bevan a Heledd Williams am nad oedd datganiadau’r ddau ddiffynydd ar gael yn y Gymraeg.

Ond yn ôl y CPS roedd y gwaith papur wedi ei anfon at gyfieithydd ond doedd y fersiwn Gymraeg wedi dod nôl erbyn yr achos ddydd Llun.

Mae’r ddau aelod o Gymdeithas yr Iaith wedi’u cyhuddo o dorri mewn i swyddfa’r AS Ceidwadol, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar y wal fel rhan o’r ymgyrch dros ddyfodol S4C.

Gan fod y ddau wedi cael eu holi gan Dditectif yn y Gymraeg ar Fawrth 6, dywed yr protestwyr eu bod wedi cael digon o amser i gyfieithu’r datganiadau.

“Rydan ni’n gorfod aros tair wythnos arall i fynd i Lys, fydd yn golygu eu bod nhw wedi cymryd wyth wythnos i gyfieithu’r stwff – sydd ddim mwy na deg tudalen,” meddai Jamie Bevan.

Yn ôl Heddlu De Cymru, maen nhw wedi cadw at eu cynllun iaith trwy roi gwybod i’r CPS fod Jamie Bevan a Heledd Williams yn dymuno i’r achos fod yn Gymraeg.

Yn ôl Jamie Bevan roedd cyfieithydd ac offer cyfieithu-ar-y-pryd ar gael yn Llys Ynadon Caerdydd – ond eu datganiadau a’r gwaith papur i gyd yn Saesneg.

“Yn wyneb yr holl gynlluniau iaith a pholisïau, mae’n dod lawr i fympwy unigolion… dyle bo nhw’n gwybod beth yw hawliau iaith pobol. Mae rhywbeth yn bod yn rhywle,” meddai’r dyn 35 oed sy’n Swyddog Maes y De gyda’r Gymdeithas ac yn Diwtor Cymraeg i Oedolion.

Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Fe wnaethon ni ofyn am y gwaith papur perthnasol yn yr iaith Gymraeg gan Heddlu De Cymru, a wnaethon nhw basio’r cais yma ymlaen i gyfieithwyr. Yn anffodus, nid oedd y cyfieithwyr yn gallu cwblhau eu gwaith erbyn gwrandawiad yr wythnos hon, felly wnaethon ni ofyn i ohirio’r achos.”