Castell Caernarfon
Mae’r Urdd yn rhagewld y bydd dros 1,000 o blant, pobl ifanc a chefnogwyr yn gorymdeithio drwy Gaernarfon ddydd Sadwrn er mwyn croesawu Eisteddfod yr Urdd i Eryri yn 2012.
Cwta flwyddyn cyn i’r ŵyl ymweld â thir Coleg Meirion Dwyfor, Glynllifon gerllaw, cynhelir gorymdaith o gyrion Caernarfon i’r castell ar gyfer “jambori hwyliog”.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn o Faes Parcio Shell ger Morrisons, Caernarfon am 10.3am bore, gyda’r dorf yn anelu am Gastell Caernarfon erbyn 11.30.
Yno bydd Dilwyn Price yn arwain, gyda sioe Rimbojam yr Urdd, band Y Bandana o Gaernarfon yn perfformio set o’u caneuon, band Jazz Ysgol Tryfan yn cyflwyno sioe yn ogystal â chriw Cyw yn diddanu.
Fel rhan o’r dathliadau yn Sgwar y Castell, bydd Meriel Parry, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri a phrifathrawes Ysgolion Tregarth a Bodfeirig yn cyflwyno’r copi cyntaf o restr testunau’r Eisteddfod i Tudur Dylan, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod.
Mae’r orymdaith yn benllanw wythnos o godi arian yn yr ardal, gan gynnwys taith gerdded a phicnic yn ardal Bangor Ogwen, gorymdaith yn Llŷn, diwrnod o weithgareddau yn gwisgo coch gwyn a gwyrdd yn Eifionydd a thaith gerdded yn Arfon a Nantlle.
“Rydym yn hynod o falch fod cynifer o blant a phobl ifanc eisiau bod yn rhan o’r orymdaith hon i groesawu’r Eisteddfod i Eryri yn 2012,” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
“Mae’r gefnogaeth mae’r Eisteddfod eisoes wedi ei derbyn yn yr ardal yn wych, a digwyddiadau dirifedi wedi eu cynnal ledled Eryri i godi arian at yr Eisteddfod, a chalendr prysur o ddigwyddiadau dal i ddod – rydym yn gwerthfawrogi ac yn diolch yn fawr i bobl yr ardal am eu cefnogaeth.
“Mae croeso i bawb ar yr orymdaith, felly dewch i ymuno gyda ni am 10:30am yn Maes Parcio Shell ger Morrisons i roi Eisteddfod 2012 ar y map.”