Cwpan Rygbi
Mae S4C wedi cael yr hawl i ddarlledu rowndiau terfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2011 yn Seland Newydd.

Bydd darllediadau’r sianel yn cynnwys naw gêm yn fyw, gan gynnwys holl gemau Cymru yn ystod y bencampwriaeth.

Yn ogystal â hynny, bydd gêm o rownd yr wyth olaf, gêm o’r rownd gynderfynol, y gêm trydydd safle a’r ffeinal hefyd yn fyw ar S4C.

Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau ar 9 Medi gyda darllediad o’r seremoni a’r gêm agoriadol rhwng Seland Newydd a Tonga ym Mharc Eden, Auckland.

Bydd yr holl gemau yn fyw yn ystod y boreau, ac yn cael eu dangos yn ystod y dydd o fewn yr oriau brig.

Ymgyrch Cymru

Bydd ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth yn dechrau ar 11 Medi yn erbyn deiliaid Cwpan y Byd, De Affrica, yn Wellington.

Yna bydd Cymru’n symud ymlaen i herio Samoa yn Stadiwm Waikato yn Hamilton ar 18 Medi.

Namibia fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru ar 26 Medi yn New Plymouth cyn iddynt wynebu Ffiji nôl yn Hamilton ar 2 Hydref.

Bydd cyfres Jonathan hefyd yn cael ei ddarlledu yn ystod y bencampwriaeth, ar noswyl gemau Cymru.

“Mae Cwpan y Byd bob tro yn ddigwyddiad arbennig i unrhyw chwaraewr rygbi sy’n cael y cyfle i chwarae yn y gystadleuaeth,” meddai Shane Williams, chwaraewr y Gweilch a Chymru.

“Eleni bydd yn fwy pwysig nag arfer imi’n bersonol gan mai dyma fydd y tro olaf imi chwarae yng Nghwpan y Byd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Seland Newydd ac mae’r ffaith fod gwylwyr S4C yn mynd i gael gwylio holl gemau Cymru ar y sianel yn newyddion da dros ben.”

“Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn uchafbwynt yn y calendr rygbi ac mae’n newyddion arbennig o dda fod S4C yn ymuno yn y digwyddiad mawreddog drwy ddarlledu gemau Cymru’n fyw yn Gymraeg,” meddai Jamie Roberts, chwaraewr y Gleision a Chymru.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gystadlu am le yng ngharfan Cwpan y Byd Cymru yn Seland Newydd ac rwy’n falch y bydd gan bobl Cymru’r cyfle i ddilyn ein carfan genedlaethol ar S4C.”