Llys Ynadon Caerdydd
Mae achos llys dau brotestiwr fu’n ymgyrchu yn erbyn tocio cyllideb S4C wedi ei ohirio heddiw.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod yr heddlu wedi cyflwyno eu holl bapurau yn uniaith Saesneg ac y bu’n rhaid gohirio’r achos.
Mae Jamie Bevan o Ferthyr Tudful, a Heledd Melangell Williams o Nant Peris, wedi eu cyhuddo o fwrgleriaeth.
Yr honiad yw eu bod wedi torri i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith roedd y weithred yn rhan o’r ymgyrch yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i dorri grant S4C a rhoi’r sianel dan adain y BBC.
Dechreuodd yr achos yn Llys Ynadon Caerdydd toc cyn 10am bore ma.