Mae Cymraes o Langefni sydd bellach yn byw yn Japan wedi disgrifio’r ofn wrth i’r daeargryn daro’r wlad ddoe.

Mae Rhian Yoshikawa wedi bod yn Japan ers 24 mlynedd ac yn byw ar dref lan môr tua dwy awr i’r gorllewin o’r brifddinas, Tokyo.

Mae hi’n athrawes Saesneg ac yn helpu yn siop llestri ei gŵr. Mae ganddyn nhw ddau o blant, Cai 17, a Mena, 14.

“Roeddwn i newydd fynd i’r car i fynd i’r gwaith pan darodd y daeargryn,” meddai wrth Golwg 360.

“Dois i allan yn syth ac i mewn i’r tŷ at Cai, a chuddio o dan y bwrdd bwyd.

“Roedd o’n brofiad dychrynllyd. Daeth daeargryn arall o fewn ryw hanner awr, oedd yn fwy na’r un cyntaf.

“Diolch byth ar unig beth dorrodd yn y tŷ oedd un gwydr gwin.
“Roedd rhaid i fi fynd i nôl Mena o’r ysgol, ac roedd yn siwrne yn hir iawn oherwydd yr holl geir ar y ffordd. Doedd y goleuadau traffig ddim yn gweithio chwaith.”

Dywedodd fod y tsunami wedi cyrraedd yn fuan wedyn a bod y tonnau bron a bod wedi cyrraedd y siop llestri lle y mae ei gŵr yn gweithio.

“Daeth y tsunami cyntaf reit at ein siop ond diolch byth daeth o ddim i mewn. Mae llawer o’r llestri wedi malu.
“Rydyn ni wedi bod yn lwcus. Mae gennym ni drydan a dŵr yma o hyd, a does llawer heb.”

Dywedodd fod pobol o’i chwmpas hi’n pryderu ond heb fynd i banig.
“Does yna ddim llawer iawn o wybodaeth am effaith y daeargryn na’r tsunami eto,” meddai.

“Mae pobol yn poeni yn bennaf am yr orsaf niwclear ac y bydd tsunami arall eto. Mae’n debygol y bydd daeargryn arall, ac mae pobol yn hel bwyd rhag ofn.

“Dydw i ddim yn nabod unrhyw un sydd wedi colli rhywun, diolch byth. Ond mae tŷ un o fy ffrindiau wedi ei ddifethaf.

“Dydw i ddim yn gwybod pryd y daw pethau’n ôl i feth yr oedden nhw.”