Y tsunami yn Japan
Mae Japan wedi galw am gymorth Prydain wrth geisio achub dioddefwyr y daeargryn 8.9 ar y raddfa Richter darodd y wlad ddoe.

Cafodd cannoedd o bobol eu lladd ac mae pryder y gallai hynny godi i’r miloedd ar ôl i tsunami daro’r wlad yn sgil y daeargryn oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain y wlad.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, ei fod wedi derbyn cais gan Lywodraeth Japan i afon achubwyr o Brydain draw i’r wlad.

“Mae’r difrod ydyn ni wedi ei weld ar ein setiau teledu wedi arswydo pobol Prydain,” meddai William Hague.

“Rydw i wedi siarad gydag ysgrifennydd tramor Japan heddiw er mwyn cyfleu ein cydymdeimlad ond hefyd er mwyn cynnig ein cymorth.”

Dywedodd William Hague y byddai Prydain yn darparu timau chwilio ac achub yn ogystal ag arbenigedd wrth adnabod dioddefwyr.

Daw’r alwad wrth i lefarydd ar ran Llywodraeth Japan ddweud fod tref gyfan wedi ei ddinistrio bron yn gyfan gwbl gan y tsunami.

Y gred yw bod dros 1,000 o bobol wedi marw yn nhref Rikuzentakada yn rhanbarth Iwate. Mae milwyr eisoes wedi dod o hyd i 300-400 o gyrff yno.