Mae yna adroddiadau bod rhan o orsaf niwclear sydd yn agos at ganolbwynt y daeargryn yn Japan wedi ffrwydro.

Mae lluniau ar deledu Japan yn dangos bod waliau un o adeiladau gorsaf bŵer Fukushima wedi chwalu, a mwg yn codi ohono.

Mae’n debyg bod rhai o weithwyr yr orsaf niwclear, gafodd ei ddifrodi’n rhannol gan y daeargryn, wedi eu hanafu gan y ffrwydrad.

Daw hyn ar ôl pryderon bod un o adweithyddion niwclear yr orsaf bŵer wedi ei ddifrodi gan y daeargryn a’i fod yn rhyddhau ymbelydredd.

Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Niwclear a Diwydiannol Japan eu bod nhw bellach wedi dechrau rhyddhau “anwedd ymbelydrol” er mwyn esmwytho’r gwasgedd uchel y tu mewn i un o’r adweithyddion.

Roedd swyddogion yn mesur y lefelau ymbelydredd yn yr ardal, medden nhw.

Mae’r adweithydd eisoes wedi gollwng rywfaint o ymbelydredd. Dywedodd gweithwyr yn yr orsaf niwclear eu bod nhw wedi mesur ymbelydredd wyth gwaith yn uwch na’r arfer y tu allan i’r orsaf, a 1,000 gwaith yn uwch y tu mewn i’r ystafell rheoli.

Achub

Mae miloedd o filwyr, 300 o awyrennau a 40 o longau wedi eu hanfon i ogledd-ddwyrain Japan yn dilyn y trychineb ddoe.

Mae’r llywodraeth bellach yn ofni bod miloedd o bobol wedi marw o ganlyniad i’r daeargryn a’r tsunami dinistriol ddaeth yn ei sgil.

Ysgubodd y tsunami 23 troedfedd tua pum milltir ar draws yr arfordir gan ddinistrio trefi, ffyrdd a meysydd awyr.

Roedd y daeargryn 8.9 ar y raddfa Richter tua 8,000 gwaith yn fwy pwerus na’r un darodd Christchurch yn Seland Newydd fis diwethaf.

Mae 50 o ôl-gryniadau eisoes wedi ysgwyd y wlad, ac fe darodd daeargryn 6.6 ar y raddfa Richter ardal fynyddig yng nghanolbarth Japan.

Mae’r llywodraeth wedi cadarnhau fod o leiaf 413 o bobol wedi marw, ond dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i rhwng 200 a 300 o gyrff ar yr arfordir.

Dyw’r gwasanaethau brys ddim yn gwybod eto faint o gyrff fydd wedi eu caethiwo dan y rwbel a’r malurion.