Tokyo, Japan
Mae daeargrynfeydd mor gyffredin yn Japan nad oedd un Cymro o Landisilio, Sir Benfro, wedi talu lot o sylw pan darodd yr un 8.9 ar y raddfa Richter am 2.46pm heddiw.
Ond ar ôl i ddifrifoldeb y daeargryn ddod i’r amlwg roedd panic ymysg gweithwyr ei swyddfa, meddai, a dyw pethau heb ddychwelyd i’r drefn arferol yn y brifddinas Tokyo o hyd.
“Fuodd na ddaeargryn bach ddydd mercher, felly doedd pobol ddim yn talu llawer iawn o sylw iddo nes i’r rheolwyr waeddu ar bawb i redeg i’r coridorau,” meddai Steffan Davies, sy’n gweithio yn Tokyo.
“Rhedon ni gyd i’r coridorau ac wrth i bawb eistedd ar lawr dechreuodd yr adeilad siglo lan a lawr a nol a mlaen – tate yure a yoko yure mewn Japaneg!
“Mae’r cyfan yn bach o daze i fi nawr ond fe fyddwn i’n dweud fod yr adeilad wedi siglo am bron i ddwy funud.
“Fe gadarhaodd y rheolwyr bod pawb yn iawn ac fe aeth pawb yn ôl at eu desgiau.”
Ond dywedodd fod rheolwyr y cwmni wedi dechrau symud y gweithwyr ar ôl i’r adeilad gael ei daro gan ôl-gryniadau.
“Dechreuodd yr aftershocks wap ar ol hynny. Cafodd pawb eu symyd i adeilad B y swyddfa sydd yn earthquake proof – seismic base isolation structure yw’r enw technegol!
“Doedden ni ddim yn gallu teimlo lawer iawn o siglo ar ôl hynny. Buon ni yno am ryw awr nes i’r ôl-gryniadau ddod i ben.
“Roedd pawb yn poeni braidd am nad oedd y ffonau yn gweithio. Diolch byth am Facebook – roedd e’n arbennig o dda am gadw cysylltiad â phawb.
“Mae’r adeiladau eu hunain yn Japan i gyd yn gorfod cael eu hadeiladu i wrthsefyll daeargryn – taishin mewn Japaneg.
“Oherwydd hynny, does dim llawer o ddinistr wedi bod ac adeiladau yn cwympo. Y tsunami sydd wddi achosi y rhan fwyaf o’r dinistr.
“Mae Tokyo wedi bod ar stop ers y daeargryn, a’r system trenau a trafnidiaeth gyhoeddus orau’r byd wedi dod i stop.
“Mae yna lot o bobol ddim yn gallu mynd gartref o’r gwaith a wedi gorfod sefyll yn eu cwmnioedd, neu mewn ysgolion neu neuadddau cyhoeddus dros nos.
“Mae son bod y trenau yn dechre nol yn araf bach.”