Mae dyn yn yr Unol Daleithiau wedi’i gael yn euog o gynllwynio i dorri pen blogwraig a lladd pobol eraill ar ran grwp y Wladwriaeth Islamaidd.
Mae rheithgor yn ninas Boston wedi cael David Wright yn euog o bob cyhuddiad yn ei erbyn – sy’n cynnwys cynllwynio i ddarparu cefnogaeth ariannol i sefydliad brawychol dramor; ac o’r bwriad o achosi gweithredoedd brawychol sy’n croesi ffiniau gwledydd.
Mae David Wright, 28, yn wynebu treulio’i oes dan glo.
Mae Pamela Geller yn flogwraig sy’n ysgrifennu o safbwynt geidwadol, ac fe glywodd y llys sut yr oedd y ffaith iddi drefnu cystadleuaeth gwneud cartwn o’r proffwyd Mohammad yn 2015 wedi codi gwrychyn David Wright.
Yr oedd o, ei ewythr a thrydydd dyn wedi mynd ati wedi hynny i gynllwynio i ladd Pamela Geller. Yn ystod y gystadleuaeth ei hun, roedd dau ddyn arall wedi tanio gynnau y tu allan i’r ganolfan, gan anafu swyddog diogelwch.
Yn y diwedd, chafodd yr ymosodiad a oedd wedi’i gynllunio yn erbyn Pamela Geller, ddim ei gario allan.