Rhuban ymwybyddiaeth o hunan-niweidio (Messer Woland CCA3.0)
Mae nifer y merched ifanc sydd yn hunan niweidio wedi cynyddu, gydag arbenigwyr yn awgrymu mai cyfryngau cymdeithasol sydd ar fai.
Rhwng 2011 a 2014 cynyddodd adroddiadau o hunan niweidio ymysg merched 13-16 gan 68%, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Manceinion o bobol ifanc rhwng 10 ac 19 oed.
Fe gasglodd arbenigwyr ddata o feddygfeydd ledled gwledydd Prydain, gan ddarganfod bod 16,912 o blant a phobol ifanc wedi hunan niweidio rhwng 2001 a 2014 – roedd tua thri chwarter yn ferched.
Mae’n debyg bod 37.4 o bob 10,000 merch yn hunan niweidio, o gymharu â bechgyn sydd â ffigur llawer is – 12.3 o bob 10,000.
“Effaith niweidiol”
Yn ôl awduron yr adroddiad, mae’n bosib mai problemau iechyd meddwl yn cyd-daro â’r glasoed ynghyd â chyfryngau cymdeithasol sydd yn gyfrifol am y cyfraddau uchel.
“Mae’r cyfryngau digidol a’u heffeithiau posib ar iechyd meddwl plant a phobol ifanc wedi ennyn tipyn o sylw yn y cyfryngau,” meddai awduron yr astudiaeth.
“Mae technoleg fel hyn yn medru bod o gymorth ac yn medru gwneud hi’n haws i ddarparu gofal, ond mae yna hefyd awgrym bod cyswllt eithafol o gryf â’r we yn medru cael effaith niweidiol.”