Theresa May yn arwyddo llythyr Erthygl 50, Mawrth 2017 (Llun: Christopher Furion/PA)
Mae disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig alw ar arweinyddion Ewropeaidd i gyflymu sgyrsiau Brexit, wrth annerch cynhadledd ym Mrwsel ddydd Iau (Hydref 19).
Bydd Theresa May yn erfyn ar yr arweinyddion i ganolbwyntio ar “heriau sydd o’u blaenau” ac yn eu hannog i ddechrau trafodaethau am berthynas fasnach newydd rhwng Ewrop a Phrydain.
Mae’n debygol bydd ei neges yn ofer gan fod disgwyl i’r Cyngor Ewropeaidd benderfynu peidio â gwthio’r trafodaethau ymlaen yn ystod sesiwn ddydd Gwener (Hydref 20).
Er hynny mae Arlywydd y Cyngor, Donald Tusk, yn dweud bydd yn annog “paratoadau mewnol am drafodaethau’r berthynas masnach” – sy’n golygu gall y trafodaethau ddechrau ym mis Rhagfyr.
Jeremy Corbyn
Bydd Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, hefyd yn teithio i Frwsel ac mae disgwyl iddo ddatgan bod y Blaid Lafur “yn barod i gymryd cyfrifoldeb dros drafodaethau Brexit”.
Yn ystod ei ymweliad bydd yn cwrdd â thri arweinydd Ewropeaidd, ynghyd â Phrif Drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier.